RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20188
Yn rheoliad 40 (swm benthyciad at ffioedd dysgu)—
a
ym mharagraff (3)—
i
ar ddiwedd Categori 1 yn lle “neu 5” rhodder “, 5 neu 6”;
ii
yng Nghategori 4, hepgorer “, gan gynnwys myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban”; a
iii
ar ôl Categori 5 mewnosoder—
Categori 6
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
b
yn Nhabl 2 o baragraff (3)—
i
hepgorer y geiriau “a’r Alban” o’r 14eg res yng ngholofn 4 (lleoliad y darparwr cwrs);
ii
mewnosoder y geiriau “Yr Alban a” cyn y geiriau “Gogledd Iwerddon” yn y 15fed res yng ngholofn 4; a
iii
ar y diwedd mewnosoder—
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018
6
Darparwr arferol
Cymru
£1,350
Lloegr a’r Alban
£1,385