48. Yn rheoliad 4 (disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—
(a)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(b)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(c)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2018 oherwydd ei fod yn berson y mae Eithriad 3, paragraff (a), Eithriad 4, Eithriad 5 neu Eithriad 6 a restrir yn rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo; neu
(d)person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).”