xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (sef “cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth pa un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.
(4) Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y mae’n rhaid talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
(e)yr hawl i apelio;
(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig; ac
(g)o dan ba amgylchiadau y caiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
25.—(1) Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm arall;
(d)bod swm y gosb yn afresymol;
(e)unrhyw reswm arall.