Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy i gyflenwyr
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mewn achos am drosedd o dan reoliad 3(2), mae’n amddiffyniad i berson (“P”) ddangos bod P wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
(2) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad trydydd parti oni bai bod P wedi—
(a)cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (3); neu
(b)cael caniatâd y llys.
(3) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant P sy’n enwi’r person, neu sydd o gymorth o ran cael gwybod pwy oedd y person—
(i)a gyflawnodd y weithred neu ddiffyg; neu
(ii)a gyflenwodd yr wybodaeth yr oedd P yn dibynnu arni; a
(b)cael ei gyflwyno i’r person sy’n dwyn yr achos nid llai na 7 diwrnod clir cyn gwrandawiad yr achos.
(4) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall, oni bai ei bod yn rhesymol i P ddibynnu ar yr wybodaeth, gan roi sylw penodol i—
(a)y camau a gymerwyd gan P, a’r rheini y gellid yn rhesymol bod wedi eu cymryd, at ddiben gwirhau’r wybodaeth; a
(b)pa un a oedd gan P unrhyw reswm i beidio â chredu’r wybodaeth.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “honiad trydydd parti” yw honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i—
(a)gweithred neu ddiffyg person arall; neu
(b)dibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall.