RHAN 2Troseddau
Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy i gyflenwyr4
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mewn achos am drosedd o dan reoliad 3(2), mae’n amddiffyniad i berson (“P”) ddangos bod P wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
2
Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad trydydd parti oni bai bod P wedi—
a
cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (3); neu
b
cael caniatâd y llys.
3
Rhaid i’r hysbysiad—
a
rhoi unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant P sy’n enwi’r person, neu sydd o gymorth o ran cael gwybod pwy oedd y person—
i
a gyflawnodd y weithred neu ddiffyg; neu
ii
a gyflenwodd yr wybodaeth yr oedd P yn dibynnu arni; a
b
cael ei gyflwyno i’r person sy’n dwyn yr achos nid llai na 7 diwrnod clir cyn gwrandawiad yr achos.
4
Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall, oni bai ei bod yn rhesymol i P ddibynnu ar yr wybodaeth, gan roi sylw penodol i—
a
y camau a gymerwyd gan P, a’r rheini y gellid yn rhesymol bod wedi eu cymryd, at ddiben gwirhau’r wybodaeth; a
b
pa un a oedd gan P unrhyw reswm i beidio â chredu’r wybodaeth.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “honiad trydydd parti” yw honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i—
a
gweithred neu ddiffyg person arall; neu
b
dibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall.