Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyflenwi” (“supply”), mewn perthynas â chynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd, yw cyflenwi drwy ei werthu neu ei gyflwyno fel gwobr neu rodd hyrwyddo yng nghwrs busnes;

ystyr “cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd” (“rinse-off personal care product”) yw unrhyw sylwedd, neu gymysgedd o sylweddau, a weithgynhyrchir at ddiben ei roi ar unrhyw ran berthnasol o’r corff dynol yn ystod unrhyw driniaeth gofal personol, drwy broses roi sy’n golygu bod angen gwaredu’r cynnyrch (neu unrhyw weddillion o’r cynnyrch) mewn ffordd brydlon a phenodol wrth gwblhau’r driniaeth drwy ei olchi neu ei rinsio â dŵr, yn hytrach na gadael iddo dreulio neu olchi i ffwrdd, neu gael ei amsugno neu ei ddiosg gydag amser;

ac at y diben hwn—

(a)

ystyr “triniaeth gofal personol” (“personal care treatment”) yw unrhyw broses o lanhau, diogelu neu bersawru rhan berthnasol o’r corff dynol, cynnal neu adfer cyflwr y rhan honno neu newid ei golwg; a

(b)

“rhan berthnasol o’r corff dynol” (“relevant human body part”) yw—

(i)

unrhyw ran allanol o’r corff dynol (gan gynnwys unrhyw ran o’r epidermis, y system gwallt a blew, yr ewinedd neu’r gwefusau);

(ii)

y dannedd; neu

(iii)

pilenni mwcaidd ceudod y geg;

Mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ystyr “diben awdurdodedig” (“authorised purpose”) yw at ddiben penderfynu pa un a yw trosedd o dan reoliad 3(1) neu 3(2) wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu at ddiben penderfynu pa un a yw unrhyw ofyniad hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad stop neu ymgymeriad gorfodaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi ei dorri neu’n cael ei dorri ai peidio;

mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(b) o’r Atodlen;

mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 9(2) o’r Atodlen;

ystyr “microbelen” (“microbead”) yw unrhyw ronyn plastig solet sy’n annhoddadwy mewn dŵr sy’n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad;

ystyr “plastig” (“plastic”) yw sylwedd polymerig synthetig y gellir ei fowldio, ei allwthio neu ei drin yn ffisegol i lunio ffurfiau solet amrywiol ac sy’n cadw ei siâp gwneuthuredig terfynol wrth ei ddefnyddio at ei ddefnyddiau bwriadedig;

ystyr “y rheoleiddiwr” (“the regulator”), at ddibenion gorfodi trosedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1), mewn perthynas ag unrhyw fan lle y gweithgynhyrchir cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu y cyflenwir y cynnyrch hwnnw, yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal y mae’r man hwnnw ynddi;

ac at y diben hwn ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;

mae i “ymgymeriad gorfodaeth” (“enforcement undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 17 o’r Atodlen; ac

mae i “ymgymeriad trydydd parti” (“third party undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(1) o’r Atodlen.