Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”), sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac yn diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”).

Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd beryglus HP 14 ‘Ecowenwynig’ (OJ Rhif L 150, 14.6.2017, p. 1).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn erthygl 3 o Orchymyn 2011 i gyfeirio at y Gyfarwyddeb fel y’i diwygwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997.

Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n deillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.