xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
11 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Mehefin 2018
Yn dod i rym
4 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 38(5)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Gorffennaf 2018.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed.
3. At ddibenion adran 38(5)(a) o’r Ddeddf caiff Gweinidogion Cymru hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 38(2)(b) o’r Ddeddf mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â man—
(a)y darperir gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo;
(b)y darperir gwasanaeth llety diogel ynddo.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2018
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 38 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Mae adran 38(1) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau.
Mae adran 38(2) o’r Ddeddf yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ar y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth.
Mae adran 38(5)(a) o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i hepgor gwybodaeth ragnodedig o’r gofrestr a gyhoeddwyd o dan amgylchiadau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd a’r amgylchiadau pan gânt wneud hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.