19.—(1) Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth gan geisydd a myfyriwr cymwys.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol i adennill benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddir gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.