xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 656 (Cy. 124)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

Gwnaed

23 Mai 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mehefin 2018

Yn dod i rym

25 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mehefin 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu benthyciadau at radd ddoethurol ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018, pa un a yw unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a gyllidir yn gyhoeddus” a “cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig” (“postgraduate doctoral degree loan”) yw benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan Ran 4;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4);

mae “carcharor” (“prisoner”) yn cynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2018;

(b)

sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig;

(c)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall yn y sefydliad carcharu i astudio’r cwrs dynodedig; a

(d)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 8 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd ddoethurol ôl-raddedig, ond nid yw cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch na chwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig yn gwrs;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodir gan reoliad 4(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(5);

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad;

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau; neu

(c)

ar sail achlysurol yn ystod yr wythnos;

ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig” (“course which leads to a doctorate by publication”) yw cwrs sy’n arwain at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir i berson (“P”) ar sail traethawd ymchwil ar ffurf papurau ymchwil cyhoeddedig cysylltiedig, pa un a yw’r awdurdod academaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(a)

cofrestru ar y cwrs;

(b)

ymgymryd â rhaglen astudio benodol; neu

(c)

sefyll arholiad terfynol;

ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch” (“course which leads to a higher doctorate”) yw cwrs sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir i berson (“P”)—

(a)

ar lefel academaidd sy’n uwch na gradd ddoethurol ôl-raddedig; a

(b)

ar gyfer rhagoriaeth o ran cyfraniad P at ddatblygu gwyddoniaeth neu ddysgu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(5) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “cyfnod arferol y cofrestriad” (“ordinary period of registration”) yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau cwrs;

mae i “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5 mewn perthynas â myfyriwr cymwys;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol, gan gynnwys ymchwil, sy’n gysylltiedig â’r cwrs mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;

(b)

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;

(c)

y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;

(d)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;

(e)

y Cyngor Ymchwil Feddygol;

(f)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;

(g)

y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y pennir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;

ystyr “Cynllun KESS 2” (“KESS 2 Scheme”) yw Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 a gyllidir, yn rhannol, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop(6);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(7), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(8), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(9) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(10) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(11);

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(12) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(13);

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

(b)

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu’n rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau dilysrwydd y cyfathrebiad neu’r data, cyfanrwydd y cyfathrebiad neu’r data, neu’r ddau;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(14)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i A gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron y Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(15);

ystyr “Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017” (“the 2017 Master’s Degree Loans Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(16);

ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017” (“the 2017 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(17);

ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018” (“the 2018 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(18);

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei gyllido’n gyhoeddus;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys gymhwyster addysg uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio; a

(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn radd ddoethurol ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

(3Penderfynir ar flwyddyn academaidd, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

3.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (9), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os, wrth asesu cais y person i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 9, yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw A wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ynddi;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig;

(e)os yw A yn garcharor, oni bai ei fod yn garcharor cymwys;

(f)os yw A wedi ymrestru ar gwrs sy’n—

(i)cwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig), 66 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig) neu 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig) o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(ii)cwrs dynodedig o dan reoliad 4 (cyrsiau dynodedig) o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(iii)cwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig) o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(g)os yw A eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch;

(h)os yw A eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw;

(i)os, yn ddarostyngedig i baragraff (9), yw A wedi cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn;

(j)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(19);

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(20) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(21) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;

(k)os, yn ddarostyngedig i baragraff (9), yw A wedi cael benthyciad yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs ac eithrio o dan y Rheoliadau hyn, pan ddarparwyd y benthyciad hwnnw o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig;

(l)os yw A, mewn perthynas â’r cwrs, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—

(i)gan Gyngor Ymchwil;

(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig(22); neu

(m)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas â’r cwrs, unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.

(4Pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy’n gwrs dysgu o bell, nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, pa un a yw’r cwrs yn gwrs dynodedig ar y dyddiad hwnnw neu’n cael ei ddynodi ar ddyddiad diweddarach.

(5At ddibenion paragraff (4), mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar gyfer unrhyw gyfnod—

(a)pan fyddai A wedi bod yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru oni bai am y ffaith bod—

(i)A,

(ii)priod neu bartner sifil A,

(iii)rhiant A,

(iv)pan fo A yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fel aelod o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron; neu

(b)pan fo A yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar sail cyflogaeth dros dro sy’n dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.

(6Mae myfyriwr cymwys yn peidio â bod yn gymwys i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig er gwaethaf a yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried yn flaenorol fod y myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â’i gwrs o fewn y Deyrnas Unedig.

(7Nid yw paragraff (6) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar y sail bod cyflogaeth dros dro yn dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.

(8At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(9Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol anorchfygol.

(10Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan baragraff (9) unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.

Cyrsiau dynodedig

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—

(a)os yw cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs yn para am—

(i)dim llai na thair blynedd academaidd; a

(ii)dim mwy nag wyth mlynedd academaidd;

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(ii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus sydd yn y Deyrnas Unedig ar ran sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus; neu

(iii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(c)os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a

(d)os yw’n gwrs—

(i)sy’n arwain at radd ddoethurol a roddir neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(23); a

(ii)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig;

(c)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;

(d)ni fernir bod sefydliad yn cael ei gyllido’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu—

(i)sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(24);

(ii)darparwr addysg uwch cymwys fel sefydliad cysylltiedig cymhwysol yn unol ag adran 39 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(25); ac

(e)ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.

(3Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.

(4Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion—

(a)rheoliadau 5 neu 83 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017;

(b)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017;

(c)rheoliad 5 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018.

(5At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998(26) a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(6Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (5).

Cyfnod cymhwystra

5.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bod y statws yn terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 3.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 3, mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“A”) yn terfynu—

(a)ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer cwrs dynodedig A yn dod i ben ynddi; neu

(b)pan fo traethawd ymchwil cychwynnol A mewn perthynas â’r cwrs hwnnw yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod academaidd perthnasol,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(4Mae cyfnod cymhwystra A yn terfynu—

(a)pan fydd A yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru yn gorfod, o dan reoliad 6, drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i gwrs arall; neu

(b)pan fydd A yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra pan fo A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod A wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi darparu gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau gweithredu a ganlyn y maent yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra A;

(b)penderfynu nad yw A yn cymhwyso mwyach i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig;

(c)trin unrhyw fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 18.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y maent yn penderfynu arno.

Trosglwyddo statws

6.—(1Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn trosglwyddo o gwrs dynodedig (“yr hen gwrs”) i gwrs dynodedig arall (“y cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais gan y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan na fo’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod A, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i’r hen gwrs ac yn dechrau ymgymryd â’r cwrs newydd yn yr un sefydliad; neu

(b)bod A yn dechrau ymgymryd â’r cwrs newydd mewn sefydliad arall.

(3Pan fo A yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan A, mewn cysylltiad â’r cwrs newydd, i gael gweddill y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 14 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17, mewn cysylltiad â’r hen gwrs.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs

7.  Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 8 yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 3.

Digwyddiadau

8.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH

Ceisiadau am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig

9.—(1Nid yw person yn cymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y person yn gwneud cais am y benthyciad hwnnw.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)dod gydag unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 11.

Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 9.

(2Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth bellach sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad ar gais o dan reoliad 9.

Terfynau amser

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais o dan reoliad 9 gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 13(3) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.

(3Nid yw paragraffau (1) neu (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

12.—(1Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.

(2O ran y contract—

(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a

(b)caiff fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),

a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff y contract ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig drwy ddull penodol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cytundeb y myfyriwr ynghylch y dull ad-dalu yn ofynnol, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.

RHAN 4Y BENTHYCIAD

Swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person wneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o hyd at £25,000 tuag at gostau ymgymryd â chwrs dynodedig.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 17(5), pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs, a

(b)£25,000.

(3Ac eithrio pan fo rheoliad 17(5) a (6) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

(a)nad yw cyfanred y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y gwneir cais amdano yn fwy na’r symiau cymwysadwy a nodir ym mharagraffau (1) a (2);

(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 11(2).

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 10 fod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael yn unol â rheoliad 14.

Talu benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael o dan y Rheoliadau hyn—

(a)naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau; a

(b)ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

(3Os yw’r gofyniad a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.

(4Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, y mae carcharor cymwys yn cymhwyso i’w gael, i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.

(5O ran Gweinidogion Cymru—

(a)ni chânt wneud taliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n fwy na £10,609 mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys;

(b)rhaid iddynt, wrth benderfynu ar swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael, ddiystyru unrhyw flynyddoedd academaidd a gwblhawyd.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “blynyddoedd academaidd a gwblhawyd” yw blynyddoedd academaidd y cwrs dynodedig a gwblhawyd gan y myfyriwr cymwys cyn i Weinidogion Cymru gael cais y myfyriwr o dan reoliad 9(1).

(7Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, ddarparu i Weinidogion Cymru y dyddiad—

(a)y mae cwrs dynodedig myfyriwr cymwys yn dechrau arno; a

(b)y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw yn dod i ben arno.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys oni bai eu bod wedi cael, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru)—

(a)nad yw’r myfyriwr, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—

(i)gan Gyngor Ymchwil;

(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;

(b)bod y myfyriwr yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu’n ymgymryd ag ef, neu ei fod yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw neu’n parhau i ymgymryd ag ef (fel sy’n gymwys);

(c)bod o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig;

(d)bod yr awdurdod academaidd yn ystyried y bydd yn bosibl i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs;

(e)na roddwyd i’r myfyriwr neu na thalwyd iddo, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.

(9Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd ddarparu’r cadarnhad a ddisgrifir ym mharagraff (8)(a) os nad yw’n gallu gwneud hynny.

(10Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (11) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys (“A”), rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru; a

(b)darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad y mae’r awdurdod academaidd yn meddwl y gall fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(11Y digwyddiadau yw—

(a)bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol bod A, mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—

(i)gan Gyngor Ymchwil;

(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;

(b)bod A yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig, neu’n cael ei atal dros dro neu ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol;

(c)nad yw’r awdurdod academaidd yn ystyried mwyach ei bod yn bosibl i A gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw;

(d)bod A yn cyflwyno ei draethawd ymchwil cychwynnol mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig cyn i gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw ddod i ben; ac

(e)bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol i unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2 gael ei roi i A neu ei dalu iddo, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig A.

(12At ddibenion paragraffau (8)(d) ac (11)(c), rhaid i’r awdurdod academaidd roi sylw i—

(a)unrhyw gynnydd yn y dwysedd astudio a fyddai’n ofynnol er mwyn i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs o fewn cyfnod arferol y cofrestriad;

(b)unrhyw rannau o’r cwrs y bu’n ofynnol i’r myfyriwr eu hailadrodd.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig fod rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.

Absenoldeb o gwrs neu anallu i’w gwblhau

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 14(10) neu baragraff 2(a) i (c) o Atodlen 2 am fyfyriwr cymwys (“A”) ynglŷn â’r canlynol—

(a)absenoldeb A o’i gwrs dynodedig; neu

(b)anallu A i gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw,

ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

(2Caniateir gwneud taliad pellach er gwaethaf hysbysiad o’r fath os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliad yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi cael hysbysiad mewn perthynas â myfyriwr cymwys (“A”) sy’n dod o fewn paragraff (1)(a); a

(b)A yn ailgychwyn ei gwrs.

(4Rhaid i A—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi ailgychwyn ei gwrs; a

(b)darparu manylion i Weinidogion Cymru ynghylch hyd ac achos absenoldeb blaenorol A o’r cwrs hwnnw.

(5Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru os, yn dilyn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan reoliad 14(10) mewn cysylltiad â rheoliad 14(11)(c), nad yw’n ystyried mwyach nad yw’r myfyriwr yn gallu cwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan baragraffau (4) neu (5), rhaid iddynt ailgychwyn talu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliad 14 os, ym marn Gweinidogion Cymru, ydynt yn ystyried y byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.

Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys

17.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)addasu taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol er mwyn i gyfanswm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir beidio â bod yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 13(2); a

(b)talu unrhyw swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, yn unol â rheoliad 14.

(3Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys pan fo carcharor cymwys (“A”) sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, neu randaliadau o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 14.

(5Pan fyddai A wedi cymhwyso i gael swm uwch o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oni fyddai A wedi bod yn garcharor cymwys, caiff A, yn ddarostyngedig i baragraff (6), wneud cais am i swm y benthyciad gael ei gynyddu.

(6Yr uchafswm cynnydd ym menthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig A y caiff A wneud cais amdano o dan baragraff (5) yw’r swm a gyfrifir drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

pan fo—

  • F yn gyfwerth â’r swm y byddai A wedi cymhwyso i’w gael pe na bai A wedi bod yn garcharor cymwys;

  • R yn gyfwerth â’r swm y mae A yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;

  • T yn nifer y diwrnodau o gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs sy’n weddill pan yw A yn peidio â bod yn garcharor cymwys gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae A yn peidio â bod yn garcharor cymwys; ac

  • M yn gyfanswm nifer y diwrnodau y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs yn para.

Gordaliadau o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth—

(a)y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw; neu

(b)y myfyriwr a gafodd y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

(2Rhaid i fyfyriwr, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr neu a delir mewn cysylltiad â’r myfyriwr, sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y benthyciad y mae hawlogaeth gan y myfyriwr i’w gael.

(3Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n weddill i’w dalu i’r myfyriwr neu mewn cysylltiad ag ef;

(b)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(d)drwy gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

RHAN 5GOFYNION GWYBODAETH

Gofynion gwybodaeth

19.—(1Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth gan geisydd a myfyriwr cymwys.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol i adennill benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddir gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

23 Mai 2018

Rheoliadau 3 ac 8

ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS

RHAN 1Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil; neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

(c)

mewn perthynas â gwladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(d)

mewn perthynas â gwladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(e)

mewn perthynas â gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 10—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y gwladwriaethau AEE;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(27) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person ”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth gwladwriaeth AEE, ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(28).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn”(“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs dynodedig; neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A;

(b)priod neu bartner sifil A;

(c)rhiant A; neu

(d)pan fo A yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

(6At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(7At ddibenion yr Atodlen hon mae carcharor cymwys i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

5.—(1Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)(i)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

7.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr trawsffiniol AEE neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)yn berson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

8.  Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar symudiad rhydd gweithwyr(29), fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

9.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion UE

10.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;

(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) i fod yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

(4At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

11.—(1Person—

(a)sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) i fod yn wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

12.  Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

13.  Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliadau 16 a 19

ATODLEN 2GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a darparu’r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd—

(a)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’r cwrs;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(e)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor y ceisydd neu’r myfyriwr yn newid;

(f)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn dod yn garcharor neu’n garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor neu’n garcharor cymwys.

3.  Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei llofnodi gan y person sy’n ei darparu, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth benthyciad i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn delio â chymhwystra i gael cymorth benthyciad. I gymhwyso i gael cymorth benthyciad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra yn rheoliad 3. Rhaid i berson ddod o fewn un o’r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1. Mae’r rhan fwyaf o’r categorïau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r person breswylio fel arfer yng Nghymru.

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i fod wedi symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person hwnnw wedi symud ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Caiff person gymhwyso i gael cymorth benthyciad fel myfyriwr cymwys os yw’n “carcharor cymwys”. Nid yw person yn fyfyriwr cymwys os, ymhlith pethau eraill, yw’r person hwnnw eisoes wedi ennill cymhwyster sy’n cyfateb i radd ddoethurol neu’n uwch na gradd ddoethurol. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y cyfnod y caniateir i fyfyriwr cymwys gael cymorth benthyciad ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn, sef “cyfnod cymhwystra” y myfyriwr. Mae rheoliad 5 yn nodi’r amgylchiadau pan fo myfyriwr yn peidio â bod yn fyfyriwr cymwys.

Nid yw cymorth benthyciad ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliad 4. Un gofyniad o dan reoliad 4(1) er mwyn i gwrs gradd ddoethurol fod yn gwrs dynodedig yw nad yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs yn llai na thair nac yn fwy nag wyth. Darperir cymorth benthyciad i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae rheoliad 6 yn cydnabod y caiff myfyriwr cymwys drosglwyddo i gwrs arall o dan amgylchiadau penodol. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn nodi’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth benthyciad odanynt o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i’r cwrs dynodedig ddechrau.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn delio â’r trefniadau ffurfiol o ran sut y mae myfyriwr cymwys yn gwneud cais am fenthyciad, gan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer swm y cymorth benthyciad a’i dalu; effaith absenoldeb myfyriwr cymwys o’r cwrs dynodedig neu os nad yw’r myfyriwr cymwys yn gallu ei gwblhau; ac effaith myfyriwr cymwys yn dod, neu’n peidio â bod, yn garcharor cymwys. Mae rheoliad 13 yn darparu mai uchafswm y benthyciad y gall myfyriwr cymwys ei gael yw £25,000, ac eithrio yn achos carcharor cymwys, pan fo’r uchafswm yn gyfyngedig i’r lleiaf o: (a) y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig; a (b) £25,000. Mae rheoliad 14 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i dalu unrhyw fenthyciad mewn rhandaliadau. Mae rheoliad 14(5)(a) yn darparu na chaiff taliadau benthyciad mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys fod yn fwy na £10,609. O dan reoliad 14(8), nid yw Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud unrhyw daliadau benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys oni bai eu bod wedi cael, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, gadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol bod, ymhlith pethau eraill, y myfyriwr yn bresennol ar y cwrs neu’n ymgymryd â’r cwrs a’i bod yn bosibl i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs yn ôl yr amserlen. Os yw’r awdurdod academaidd perthnasol yn gallu gwneud hynny, dylai gadarnhau hefyd nad yw’r myfyriwr, mewn cysylltiad â’r cwrs, yn cael cyllid a ddarperir gan Gyngor Ymchwil neu gyllid a ddarperir gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig. Mae rheoliad 15 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud taliad o’r benthyciad ar yr amod bod y myfyriwr yn darparu rhif yswiriant gwladol iddynt. Mae rheoliad 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i beidio â thalu rhagor o daliadau’r benthyciad os ydynt yn cael hysbysiad o absenoldeb myfyriwr o’r cwrs neu nad yw’r awdurdod academaidd perthnasol yn ystyried mwyach ei bod yn bosibl i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i wneud hynny.

Mae rheoliad 17 yn nodi sut y mae swm y benthyciad y ceir hawlogaeth iddo yn newid pan fydd myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor cymwys. Mae rheoliad 18 yn nodi sut y gall Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliadau o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn delio â gofynion gwybodaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76, O.S. 2013/1881 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22), o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Daeth swyddogaethau o dan is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2, Atodlen 1 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63(6) gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20.

(5)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.

(6)

Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi ei sefydlu o dan Erthygl 162 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

(7)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46) ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1158, Atodlen 4, paragraff 5(2)(e).

(8)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5, Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (G.I.) 1998 Rhif 306.

(10)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

Gorchmn. 9171.

(13)

Gorchmn. 3906 (allan o brint).

(14)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9, Rhan 4.

(19)

O.S.A. 2007/151, fel y’i diwygiwyd gan O.S.A. 2007/503, O.S.A. 2008/206, O.S.A. 2009/188, O.S.A. 2009/309, O.S.A. 2012/72, O.S.A. 2013/80, O.S.A. 2016/82 ac O.S.A. 2017/180.

(20)

2000 p. 14. Diwygiwyd adran 67(4)(a) gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2), adran 185, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43(d).

(22)

Mae Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 91 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29). Mae adrannau 95 i 98 o’r Ddeddf honno yn darparu i Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig wneud trefniadau ar gyfer arfer ei swyddogaethau ar ei ran.

(23)

1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 53.

(24)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 122(1) ac Atodlen 11, paragraff 15(1) a (6). Er gwaethaf y diwygiad hwnnw, mae O.S. 2018/245 yn darparu, ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau 1 Ebrill 2018 ac yn gorffen 31 Gorffennaf 2019, fod adran 65(1) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai paragraff 15 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 wedi cael ei gychwyn ond fel pe bai’r cyfeiriad at “matters within the responsibility of the Higher Education Funding Council for England” yn adran 62(6)(a) o’r Ddeddf 1992 honno yn gyfeiriad at “matters within the responsibility of the Office for Students and, where applicable, United Kingdom Research and Innovation”. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff gorfforaethol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

(25)

2017 p. 29. Nid yw’r ddarpariaeth hon mewn grym eto.

(27)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.

(28)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(29)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t. 2 (OJ/SE 1968 (II) t. 475).