xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
17 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Mai 2018
Yn dod i rym
18 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern), Caerdydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 18 Mehefin 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw Traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
2. Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2018
Rheoliad 2
Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern) yn Ninas a Sir Caerdydd—
(a)y ffordd ymadael tua’r gorllewin sy’n ymestyn o bwynt 275 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â chylchfan yr A4232 Capel Llanilltern hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno; a
(b)y ffordd ymadael tua’r dwyrain sy’n ymestyn o bwynt 200 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â chylchfan yr A4232 Capel Llanilltern hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwneir ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.
1984 p. 27. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraff 28(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22) a chan baragraff 25 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40) ac Atodlen 8 iddi. Mewnosodwyd adran 17(3ZAA) gan adran 26(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).