xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 605 (Cy. 116) (C. 48)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 3) 2018

Gwnaed

17 Mai 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 3) 2018.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 31 Mai 2018

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 31 Mai 2018—

(a)Rhan 8 (darparu toiledau); a

(b)Atodlen 4 (darparu toiledau: diwygiadau canlyniadol).

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Mai 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â darparu toiledau ar 31 Mai 2018.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 24 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)
Adran 34 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)
Adran 941 Chwefror 20182018/1 (Cy. 1)
Rhan 51 Chwefror 20182018/1 (Cy. 1)
Adran 1194 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)

Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).