2018 Rhif 577 (Cy. 104)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19471 ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 19722 fel y’u cymhwysir gan adran 16(3)3 o’r Ddeddf honno, a chan adrannau 34 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20044, ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018 a daw i rym ar 1 Mehefin 2018.

2

Mae’r diwygiadau a wneir gan—

a

erthygl 2(2), (3), (4)(a) a (5); a

b

erthyglau 3(8) a 4;

yn cael effaith o 1 Ebrill 2015.

3

Mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 3(2) i (7) a (9) yn cael effaith o 6 Ebrill 2006.

4

Mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 2(4)(b) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006.

5

Mae’r diwygiad a wneir gan erthygl 5 yn cael effaith o 31 Rhagfyr 20165.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19922

1

Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19926 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Rhan B (dyfarndaliadau personol)—

a

yn rheol B1A(3)7 (pensiwn gwasanaeth parhaus)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “paragraph (1)(a)” rhodder “paragraph (1)(b)”; a

ii

yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

paragraph (1) of this rule applies as if the age ascertained under sub-paragraph (a) were substituted for “normal pension age”.

b

yn rheol B2A8 (pensiwn parhaus), yn lle “rule B1A(3)(i)” rhodder “rule B1A(3)(a)”;

c

yn rheol B5A(4B)(a)9 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn), yn lle “(A/B)×(B/C)×Gmath” rhodder “(A/E)×(B/C)×Gmath”;

d

yn rheol B5D(1A)10 (budd pensiwn ychwanegol: darpariaethau atodol), yn lle “paragraph (3)(i)” rhodder “paragraph (3)(a)”.

3

Yn Rhan C (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau), yn rheol C9 (effaith ailbriodi)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “A person” rhodder “Subject to paragraphs (3) to (6), a person”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “Where a person” rhodder “Subject to paragraphs (3) to (6), where a person”; ac

c

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

Paragraphs (1) and (2) do not apply in relation to a person (“P”) who is entitled to a pension or gratuity under this Part, where—

a

P is either—

i

entitled to a pension under rule C1 (spouse’s ordinary pension), rule C4 (spouse’s accrued pension), rule C5 (limitation on award to spouse or civil partner by reference to date of marriage or formation of partnership), rule C6 (spouse or civil partner’s requisite benefit and temporary pension) or rule C8 (limitation where spouses living apart); or

ii

receiving a gratuity under rule C8(7); and

b

the deceased spouse or civil partner of P (“D”) died as a result of an injury—

i

received in the exercise of D’s duties as a firefighter; or

ii

sustained while on a journey necessary to enable D to report for duty or return home after duty.

4

Where P’s entitlement to a pension or any part of a gratuity under this Part was removed by virtue of paragraph (1) or (2) prior to 1 April 2015 and the conditions in paragraph (3) were satisfied in relation to P, entitlement to the pension or part of gratuity is reinstated with effect from 1 April 2015 and the pension or part of gratuity becomes payable as from that date.

5

Nothing in paragraph (4) requires the making of any payment where the person to whom the payment would otherwise have been made has died prior to 1 April 2015.

6

Where a payment is required to be made under paragraph (4) in respect of a person who has died between 1 April 2015 and 1 June 2018, the amount due must be paid to that person’s personal representatives.

4

Yn Rhan G (tâl pensiynadwy a chyfraniadau)—

a

yn rheol G1 (tâl pensiynadwy a thâl pensiynadwy cyfartalog)—

i

ym mharagraffau (10) ac (11)11, yn lle “paragraph 34 of Schedule 2” rhodder “paragraph 33 of Schedule 2”;

ii

ym mharagraff (11), yn lle “paragraph 34(4) of Schedule 2” rhodder “paragraph 33(4) of Schedule 2”;

iii

ym mharagraff (13), yn lle “paragraph 34(3) of Schedule 2” rhodder “paragraph 33(3) of Schedule 2”; a

b

yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)—

i

ym mharagraff (1), yn lle “paragraph (1B)”12 rhodder “paragraphs (1B) to (1D)”;

ii

ar ôl paragraff (1B) mewnosoder—

1C

A firefighter who is—

a

below the age of 50 and has reckoned 30 years’ pensionable service; and

b

entitled to be credited with additional pension benefit under rule B5B or B5C,

until the firefighter attains the age of 50, pays pensions contributions to the fire and rescue authority only in relation to that additional pension benefit.

1D

Contributions payable under paragraph (1C) are payable—

a

at the rate of 11% in the period starting on 1 December 2006 and ending on 31 March 2012; and

b

on and after 1 April 2012 at the rate specified in the Table in paragraph 3 of Part A1 of Schedule 8.

iii

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

The annual contribution is such percentage of the authority’s estimate of the aggregate of the pensionable pay, for the year in respect of which the contribution is made, of those firefighters employed by the authority who are—

a

required by paragraph (1) to make pensions contributions in that year; and

b

below the age of 50 and have reckoned 30 years’ pensionable service,

as shall have been notified to them for that year by the Secretary of State.

5

Yn Rhan 2A13 (pensiwn gwasanaeth parhaus) o Atodlen 2 (dyfarndaliadau personol) yn lle “40 years”, lle y mae’r geiriau’n digwydd am y tro cyntaf, rhodder “30 years”.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20073

1

Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 200714 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn y Tabl Cynnwys, ym mhenawdau Pennod 1 o Ran 4 a rheolau 1 a 5 o’r Bennod honno, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”.

3

Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2(1) (dehongli)—

a

yn y diffiniad o “plentyn”, ym mharagraff (a)(iii), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;

b

hepgorer y diffiniad o “partner enwebedig”; ac

c

yn y man priodol mewnosoder—

  • mae i “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yr ystyr a roddir gan reol 1(6) o Ran 2;

4

Yn Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol), yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun)—

a

ym mharagraff (5)(b), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;

b

yn lle paragraff (6) rhodder—

6

At ddibenion paragraff (5), partner sy’n cyd-fyw i aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “yr aelod o’r cynllun”) yw person—

a

sy’n byw gyda’r aelod o’r cynllun fel pe bai’r person hwnnw a’r aelod o’r cynllun yn briodau neu’n bartneriaid sifil; a

b

ar y dyddiad y mae’r cwestiwn o statws y partner sy’n cyd-fyw mewn perthynas â’r aelod o’r cynllun i fod i gael ei ystyried—

i

nad yw’n briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson,

ii

a allai ymrwymo i briodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o’r cynllun o dan gyfraith Cymru a Lloegr,

iii

sy’n dibynnu’n ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu sydd, gyda’r aelod o’r cynllun, yn dibynnu’n ariannol ar ei gilydd, a

iv

sydd mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.

c

hepgorer paragraff (7)(b);

d

hepgorer paragraffau (8) a (9).

5

Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 11(2)(a) (dyrannu pensiwn), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”.

6

Ym Mhennod 1 o Ran 4 (pensiynau goroeswyr)—

a

ym mhennawd y Bennod ac ym mhennawd rheol 1, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”;

b

yn rheol 1, yn y geiriau sy’n cau paragraff (1), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;

c

ym mhennawd rheol 5, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”.

7

Yn Rhan 7 (personau wrth gefn), yn rheol 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol), yn y geiriau sy’n cau paragraff (3), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”.

8

Yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)—

a

yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)—

i

ym mharagraffau (7) ac (8), yn lle “baragraff 33 o Atodlen 2” rhodder “baragraff 32 o Atodlen 2”;

ii

ym mharagraff (8), yn lle “pharagraff 33(4) o Atodlen 2” rhodder “pharagraff 32(4) o Atodlen 2”; a

iii

ym mharagraff (9), yn lle “paragraff 33(3) o Atodlen 2” rhodder “paragraff 32(3) o Atodlen 2”;

b

yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol), ym mharagraff (2A)(b), yn lle “paragraff 33(4) o Atodlen 2” rhodder “paragraff 32(4) o Atodlen 2”.

9

Yn Rhan 15, hepgorer rheolau 5(3) a 6(3).

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 20074

1

Mae Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 200715 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 4 (darpariaeth drosiannol: penderfyniadau a dyfarniadau a wnaed cyn 1 Ebrill 2006)—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “disablement” mewnosoder “or death”;

b

ym mharagraff (2), ar ôl “1 April 2006,” mewnosoder “subject to the amendments made by paragraphs (3) and (4)”; ac

c

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

Omit rule C9 (effect of a new relationship).

4

Where entitlement to a pension or any part of a gratuity under this Part was removed by virtue of rule C9 prior to 1 April 2015, entitlement to the pension or part of gratuity is reinstated with effect from 1 April 2015 and the pension or part of gratuity becomes payable as from that date.

5

Nothing in paragraph (4) requires the making of any payment where the person to whom the payment would otherwise have been made has died prior to 1 April 2015.

6

Where a payment is required to be made under paragraph (4) in respect of a person who has died between 1 April 2015 and 1 June 2018, the amount due must be paid to that person’s personal representatives.

3

Yn Atodlen 1, yn Rhan 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)—

a

hepgorer rheol 5 (effaith perthynas newydd); a

b

ar ôl rheol 5, mewnosoder—

Reinstatement of entitlement to pension and gratuity5A

1

The revocation of rule 5 of this Part by the Firefighters’ Pension Schemes and Compensation Scheme (Wales) (Amendment) Order 2018 has the effect of reinstating entitlement to a pension or any part of a gratuity under this Part which was removed by virtue of paragraph (1) or (2) prior to 1 April 2015, with effect from and payable as from that date.

2

Nothing in paragraph (1) requires the making of any payment where the person to whom the payment would otherwise have been made has died prior to 1 April 2015.

3

Where a payment is required to be made under paragraph (1) in respect of a person who has died between 1 April 2015 and 1 June 2018, the amount due must be paid to that person’s personal representatives.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 20165

Yn y disgrifiad o “A” ym mharagraff (3) o erthygl 3 (darpariaeth drosiannol) o Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol 201616, ar ôl “cyfraniad”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “(heb gynnwys unrhyw gyfraniad mewn perthynas â budd pensiwn ychwanegol)”.

Alun DaviesYsgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru (“Cynllun 1992”); Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007); Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (a nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007) (“Cynllun Digolledu 2007”) a Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.

Mae erthygl 2 yn diwygio Cynllun 1992, yn benodol, er mwyn darparu bod priod neu bartner sifil sy’n goroesi diffoddwr tân a fu farw o ganlyniad i anaf a gafwyd wrth gyflawni dyletswydd, neu wrth deithio i gyflawni dyletswydd neu o’i chyflawni, i gadw ei hawlogaeth i bensiwn neu arian rhodd o dan Ran C o Gynllun 1992 os yw’n priodi, yn ailbriodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu bartneriaeth sifil ddilynol ar 1 Ebrill 2015 neu wedi hynny. Mae hefyd yn darparu bod pensiwn neu arian rhodd a dynnwyd yn ôl am y rhesymau hyn cyn 1 Ebrill 2015 yn cael ei adfer gydag effaith o’r dyddiad hwnnw. Mae erthygl 2 hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Gynllun 1992 nad ydynt yn gysylltiedig, gan gynnwys er mwyn egluro, o dan Ran G o Gynllun 1992, fod diffoddwr tân o dan 50 oed sydd wedi cyfrif 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy yn cael ei drin fel cyflogai i’r awdurdod tân ac achub at ddibenion cyfraniadau blynyddol y cyflogwr, a phan fo diffoddwr tân o’r fath wedi trefnu ar gyfer buddion pensiwn ychwanegol bod rhaid i’r diffoddwr tân dalu cyfraniadau mewn perthynas â’r rhain hyd nes y bydd y diffoddwr tân yn cyrraedd 50 oed. Pan fo’r diffoddwr tân yn cyrraedd 50 oed bydd y gofynion yn rheol G2(1) o Gynllun 1992 yn gymwys i’r diffoddwr tân. Yn gysylltiedig â hyn, mae erthygl 5 yn diwygio’r ddarpariaeth drosiannol a wneir gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016 i’w gwneud yn glir nad yw taliadau a wneir gan awdurdod tân ac achub o dan y ddarpariaeth honno yn cynnwys unrhyw swm mewn cysylltiad â chyfraniad diffoddwr tân mewn perthynas â budd pensiwn ychwanegol.

Mae erthygl 3 yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) er mwyn cael gwared ar y gofyniad bod rhaid i bartner sy’n cyd-fyw sy’n goroesi fod wedi ei enwebu gan yr aelod o’r cynllun fel amod cymhwystra ar gyfer pensiwn goroeswr. Mae erthygl 3 hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i’r Cynllun hwnnw nad ydynt yn gysylltiedig er mwyn cywiro gwallau mewn croesgyfeiriadau.

Mae erthygl 4(3) yn dirymu rheol 5 o Ran 3 o Gynllun Digolledu 2007 er mwyn caniatáu, gydag effaith o 1 Ebrill 2015, i berson sydd â’r hawl i bensiwn neu arian rhodd o dan y cynllun hwnnw ei gadw ar ôl priodi, ailbriodi, neu ffurfio partneriaeth sifil neu bartneriaeth sifil ddilynol. Mae pensiynau neu arian rhodd a dynnwyd yn ôl cyn 1 Ebrill 2015 am y rhesymau hyn yn cael eu hadfer gydag effaith o’r dyddiad hwnnw.

Roedd Cynllun Digolledu 2007 yn disodli’r darpariaethau cyfatebol yng Nghynllun 1992. Mae erthygl 4(2) yn diwygio’r trefniadau trosiannol yn erthygl 4 o Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 fel y bydd darpariaeth gyfatebol yn gymwys i ddyfarndaliadau arbennig a dyfarndaliadau mwy o dan reol C2 neu C3 o Gynllun 1992 sy’n ymwneud â dyfarniadau neu benderfyniadau a wnaed cyn 1 Ebrill 2006 sy’n berthnasol i ba un a yw anaf cymwys wedi peri marwolaeth (yn rhinwedd erthygl 4(1) o’r Gorchymyn hwnnw mae Cynllun 1992 ar y ffurf yr oedd yn bodoli yn union cyn 1 Ebrill 2006 yn parhau i gael effaith o dan yr amgylchiadau hyn).

Mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 3(2) i (7) a (9) o’r Gorchymyn hwn yn cael effaith o 6 Ebrill 2006, mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 2(4)(b) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006, mae’r diwygiad a wneir gan erthygl 5 yn cael effaith o 31 Rhagfyr 2016; mae’r diwygiadau eraill yn cael effaith o 1 Ebrill 2015. Rhoddir y pŵer i roi effaith ôl-weithredol i’r Gorchymyn hwn, mewn cysylltiad â Chynllun 1992, gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno ac, mewn cysylltiad â Chynllun Digolledu 2007 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), gan adran 34(3) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.