xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 577 (Cy. 104)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

9 Mai 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mai 2018

Yn dod i rym

1 Mehefin 2018

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1) ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(2) fel y’u cymhwysir gan adran 16(3)(3) o’r Ddeddf honno, a chan adrannau 34 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(4), ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

(1)

1947 p. 41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4 o’r offeryn hwnnw. Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27), adran 42 o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn a’r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65), adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60), ac Atodlen 3 iddi, adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11), ac Atodlen 8 iddi, adrannau 100 a 101 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1973 (p. 38), ac Atodlen 27 iddi, adran 1 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p. 18), ac Atodlen 1 iddi, adran 32(2) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 1 o Ddeddf Pensiynau’r Heddlu a’r Dynion Tân 1997 (p. 52), adran 256 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), ac Atodlen 25 iddi, a chan O.S. 1976/551. I’r graddau y caiff Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ei barhau mewn grym, o ran Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/2918 (erthygl 3(1)), mae adran 26(1) i (5) yn cael effaith fel pe rhoddid cyfeiriad at “National Assembly for Wales” yn lle pob cyfeiriad at “Secretary of State”; gweler erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae swyddogaethau o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

(2)

1972 p. 11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7).

(3)

Diddymwyd adran 16 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac Atodlen 2 iddi, ond mae’n parhau i gael effaith, o ran Cymru, yn rhinwedd erthygl 3(2) o O.S. 2004/2918 (Cy. 257).

(4)

2004 p. 21. Mae’r pwerau a roddir gan adran 34 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62 o’r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.