xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
2 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mai 2018
Yn dod i rym
2 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14A(8)(b), 14F a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 2 Gorffennaf 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(2).
2. Nid yw rheoliad 4 yn gymwys pan fo, cyn 2 Gorffennaf 2018—
(a)unigolyn wedi rhoi i’r awdurdod lleol priodol hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn unol ag adran 14A(7) o Ddeddf Plant 1989, neu
(b)llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a llunio adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o Ddeddf Plant 1989.
3. Mae Rheoliadau 2005 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
4.—(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau 2005 (adroddiadau – materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o’r Ddeddf) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (materion o ran y plentyn)—
(a)yn is-baragraff (a) ar ôl “cartref” mewnosoder “(gan gynnwys ardal awdurdod lleol)”;
(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;
(c)yn is-baragraff (c) cyn “disgrifiad corfforol” mewnosoder “ffotograff a”;
(d)yn is-baragraff (ch) hepgorer “ac adroddiad ar iechyd y plentyn”;
(e)yn is-baragraff (d) ar ôl “cred grefyddol” mewnosoder “(gan gynnwys manylion bedydd, conffyrmasiwn (bedydd esgob) neu seremonïau cyfatebol)”;
(f)yn lle is-baragraff (dd) rhodder—
“(dd)manylion unrhyw orchymyn a wnaed gan lys mewn cysylltiad â’r plentyn o dan y Ddeddf gan gynnwys—
(i)enw’r llys;
(ii)y gorchymyn a wnaed; a
(iii)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn;”;
(g)yn is-baragraff (e) yn lle “ag aelodau teulu’r plentyn” rhodder “â pherthnasau’r plentyn ac unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol”;
(h)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—
“(ea)unrhyw niwed y mae’r plentyn wedi ei ddioddef;
(eb)unrhyw risg o niwed yn y dyfodol i’r plentyn a berir gan rieni’r plentyn, ei berthnasau neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;”;
(i)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—
“(fa)(a yw’r plentyn yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol neu a yw llety yn cael ei ddarparu iddo neu wedi cael ei ddarparu iddo gan sefydliad gwirfoddol, a manylion (gan gynnwys dyddiadau) unrhyw leoliadau gan yr awdurdod neu’r sefydliad;
(fb)a yw’r darpar warcheidwad arbennig yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r plentyn;”;
(j)yn lle is-baragraff (ff) rhodder—
“(ff)cyraeddiadau addysgol y plentyn ac a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i ddatganiad anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(3);”;
(k)yn lle is-baragraff (g) rhodder—
“(g)asesiad o ddymuniadau a theimladau’r plentyn (gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn) ynghylch—
(i)gwarcheidiaeth arbennig;
(ii)ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a
(iii)cyswllt â’i berthnasau ac ag unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;”; ac
(l)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—
“(ng)y dyddiad yr aseswyd dymuniadau a theimladau’r plentyn ddiweddaf;
(h)disgrifiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a’i ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol ac unrhyw anghenion cysylltiedig ar hyn o bryd neu unrhyw anghenion tebygol yn y dyfodol;
(i)manylion am ddiddordebau’r plentyn, ei hoff bethau a’i gas bethau;
(j)hanes iechyd a disgrifiad o gyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys unrhyw driniaeth y mae’r plentyn yn ei chael; a
(l)enwau, cyfeiriadau a’r mathau o feithrinfeydd neu ysgolion a fynychwyd, gyda dyddiadau mynychu.”
(3) Ym mharagraff 3 o’r Atodlen (materion o ran teulu’r plentyn)—
(a)yn is-baragraff (a) yn lle “rhieni’r plentyn” rhodder “(a’r dyddiad y cadarnhawyd ei gyfeiriad ddiwethaf) pob un o rieni’r plentyn”;
(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;
(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)a oedd rhieni’r plentyn yn briod â’i gilydd ar adeg geni’r plentyn neu a briodasant wedi hynny ac a ydynt wedi ysgaru neu wedi gwahanu;”;
(d)yn is-baragraff (ch) cyn “a oes” mewnosoder “pan na fo rhieni’r plentyn yn briod,” ac ar ôl “am y plentyn” mewnosoder “ac, os felly, sut y’i caffaelwyd”;
(e)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(da)os na wyddys pwy yw’r naill riant neu’r llall na ble y mae, yr wybodaeth am y rhiant sydd wedi ei chanfod a chan bwy y cafwyd yr wybodaeth, a’r camau sydd wedi eu cymryd i gadarnhau mamolaeth neu dadolaeth yn ôl y digwydd;
(db)y berthynas a fu a’r berthynas bresennol rhwng rhieni’r plentyn â’i gilydd;”;
(f)yn is-baragraff (dd) cyn “disgrifiad” rhodder “ffotograff, os oes un ar gael, a”;
(g)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“(dda)pan fo ar gael, hanes iechyd pob un o’r rhieni, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol neu anabledd;”;
(h)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—
“(fa)personoliaeth a diddordebau’r rhieni;”;
(i)yn lle is-baragraff (g) rhodder—
“(g)barn, dymuniadau a theimladau rhieni’r plentyn o ran—
(i)y cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn;
(ii)magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a
(iii)cyswllt â’r plentyn;”; a
(j)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—
“(ga)o ran pob un o frodyr a chwiorydd y plentyn sydd o dan 18 oed—
(i)y person y mae’r brawd neu’r chwaer yn byw gydag ef;
(ii)a yw’r brawd neu’r chwaer yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu a yw llety yn cael ei ddarparu iddo neu iddi gan sefydliad gwirfoddol; a
(iii)manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed o ran y brawd neu’r chwaer o dan y Ddeddf gan gynnwys enw’r llys, y gorchymyn a wnaed a’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac”.
(4) Ym mharagraff 4 (materion mewn perthynas â’r darpar warcheidwad arbennig neu, pan fydd dau berson neu fwy yn ddarpar warcheidwaid arbennig ar y cyd, pob un ohonynt)—
(a)yn is-baragraff (a) ar ôl “cartref” mewnosoder “(gan gynnwys ardal awdurdod lleol)”;
(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;
(c)yn is-baragraff (ch) cyn “disgrifiad” mewnosoder “ffotograff a”;
(d)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(da)os yw’r darpar warcheidwad arbennig yn aelod o gwpl ac yn gwneud cais ar ei ben ei hun am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, y rhesymau dros hyn;
(db)manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas arwyddocaol flaenorol;”;
(e)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“(dda)a yw’r darpar warcheidwad arbennig yn berthynas i’r plentyn;
(ddb)asesiad o berthynas y darpar warcheidwad arbennig ar hyn o bryd ac yn y gorffennol â’r plentyn, rhieni’r plentyn ac unrhyw berson perthynol;”;
(f)yn is-baragraff (f) ar ôl “arbennig” mewnosoder “, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol neu anabledd”;
(g)yn is-baragraff (ff) ar ôl “gartref” mewnosoder “a chymdogaeth” ac ar ôl “incwm” mewnosoder “a gwariant”;
(h)yn is-baragraff (h) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac i ba raddau y mae’n deall natur ac effaith gwarcheidiaeth arbennig ac a yw’r darpar warcheidwad arbennig wedi trafod gwarcheidiaeth arbennig â’r plentyn”;
(i)yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)asesiad o gynneddf y darpar warcheidwad arbennig i fod yn rhiant, gan gynnwys—
(i)ei ddealltwriaeth o anghenion presennol y plentyn a’i anghenion tebygol yn y dyfodol a’i allu i ddiwallu’r anghenion hynny, yn benodol, unrhyw anghenion a all fod gan y plentyn sy’n codi o niwed y mae’r plentyn wedi ei ddioddef;
(ii)ei ddealltwriaeth o unrhyw risg bresennol o niwed i’r plentyn neu unrhyw risg o niwed i’r plentyn yn y dyfodol a berir gan rieni’r plentyn, ei berthnasau neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol, yn benodol o ran cyswllt rhwng unrhyw berson o’r fath a’r plentyn, a’i allu i amddiffyn y plentyn rhag unrhyw risg o’r fath;
(iii)ei allu, ei addasrwydd a’i ymrwymiad i fagu’r plentyn hyd nes iddo gyrraedd deunaw oed; a
(iv)ei ddealltwriaeth o rôl gwarcheidwad arbennig a’i heffaith debygol ar ei fywyd;
(ia)manylion unrhyw aelodau eraill o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig a manylion unrhyw blant y darpar warcheidwad arbennig hyd yn oed os nad ydynt yn preswylio yn yr aelwyd;
(ib)manylion rhieni ac unrhyw frawd neu chwaer y darpar warcheidwad arbennig, gyda’u hoedrannau;
(ic)manylion personoliaeth a diddordebau’r darpar warcheidwad arbennig;
(ich)manylion unrhyw reithdrefnau llys teulu blaenorol y mae’r darpar warcheidwad arbennig wedi bod yn rhan ohonynt (na chyfeiriwyd atynt eto yn unman arall yn yr adroddiad);”;
(j)yn lle is-baragraff (j) rhodder—
“(j)manylion tri chanolwr personol y darpar warcheidwad arbennig, nad yw mwy nag un ohonynt yn perthyn i’r darpar warcheidwad arbennig, ac adroddiad o bob un o’r cyfweliadau â’r canolwyr;”;
(k)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—
“(ja)barn aelodau eraill o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig a’r teulu ehangach (pan fo’n berthnasol) o ran y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig arfaethedig;
(jb)asesiad o’r rhyngweithio rhwng pob un o aelodau aelwyd y darpar warcheidwad arbennig;
(jc)asesiad o berthynas y plentyn â theulu’r darpar warcheidwad arbennig ar hyn o bryd a’r berthynas debygol rhyngddynt yn y dyfodol;
(jch)unrhyw obeithion a disgwyliadau sydd gan y darpar warcheidwad arbennig ynghylch dyfodol y plentyn;
(jd)dymuniadau a theimladau’r darpar warcheidwad arbennig o ran cyswllt ar hyn o bryd ac yn y dyfodol rhwng y plentyn a pherthnasau’r plentyn neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;”;
(l)yn is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “; ac”; a
(m)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—
“(ll)o ran y darpar warcheidwad arbennig ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig sy’n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4) sy’n cynnwys gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno).”
(5) Ym mharagraff 5 (materion mewn perthynas â’r awdurdod lleol a luniodd yr adroddiad)—
(a)yn is-baragraff (d) ar ôl “riant y plentyn” mewnosoder “a’r cyfnod y mae’r gwasanaethau hynny i gael eu darparu ar ei gyfer”; a
(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)pan fydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, y rhesymau pam;”.
(6) Ym mharagraff 6 (materion o ran y casgliadau yn yr adroddiad)—
(a)yn is-baragraff (b)—
(i)yn lle paragraff (v) rhodder—
“(v)effaith gwneud y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig ar rieni’r plentyn, darpar warcheidwad arbennig y plentyn a’i deulu ac unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;”;
(ii)ym mharagraff (vi) ar ôl “plentyn;” hepgorer “ac”;
(b)yn is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(ch)argymhelliad o ran y trefniadau y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a pherthnasau’r plentyn neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol.”
5.—(1) Yn rheoliad 3 (darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig)—
(a)ym mharagraff (1)(d)(ii), yn lle “gofal seibiant” rhodder “seibiannau byr”; a
(b)mae paragraff (2) wedi ei hepgor.
(2) Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—
3A.—(1) Mae adran 14F o’r Ddeddf (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol—
(a)plentyn perthnasol sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn union cyn i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud;
(b)gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig i blentyn o’r fath;
(c)plentyn gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig a grybwyllwyd yn is-baragraff (b).
(2) Ond mae adran 14F yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig ac eithrio mewn achos pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol o dan Ran 3 ac y cafodd y penderfyniad i ddarparu’r cymorth hwnnw ei wneud cyn i’r gorchymyn gael ei wneud.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau cymorth gwarchodaeth arbennig i berson sy’n dod o fewn y personau hynny a restrir yn rheoliad 3A(1)(a) i (c), heb fod yn hwyrach na thri mis cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—
(a)adolygu’r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig a ddarperir i’r person hwnnw;
(b)hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw yn byw ynddo am unrhyw angen parhaus am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; ac
(c)atgyfeirio’r person hwnnw i wybodaeth, cyngor a chymorth lleol perthnasol.
(4) Nid yw unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i bersonau sydd y tu allan i’w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol wneud hynny.”
6. Yn rheoliad 5 (asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig)—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Rhagnodir y personau canlynol at ddibenion adran 14F(3) o’r Ddeddf (personau y mae rhaid i asesiad gael ei gyflawni ar eu cais)—
(a)person sy’n dod o fewn adran 14F(3)(a) i (c) o’r Ddeddf;
(b)plentyn perthnasol sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn union cyn i’r gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud;
(c)plentyn i’r gwarcheidwad arbennig neu’r darpar warcheidwad arbennig a grybwyllir yn is-baragraff (ch);
(ch)gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig i blentyn perthnasol;
(d)rhiant i blentyn perthnasol;
(dd)person perthynol i blentyn perthnasol, ar yr amod, cyn i gais gael ei wneud am asesiad, fod trefniadau ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y person a’r plentyn perthnasol; ac
(e)plentyn (ac eithrio un sy’n dod o fewn is-baragraffau (a) i (c) uchod) a enwir mewn adroddiad a lunnir o dan adran 14A(8) o’r Ddeddf.”; a
(b)hepgorer paragraff (2).
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mai 2018
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Y prif newidiadau yw—
(1) diwygiadau i’r Atodlen sy’n rhestru’r materion y mae rhaid i’r awdurdod lleol ymdrin â hwy yn ei adroddiad ar gyfer y llys at ddibenion adran 14A(8)(b) o Ddeddf Plant 1989;
(2) darpariaeth o dan adran 14F (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) i ragnodi amgylchiadau y mae adran 14F yn gymwys odanynt i awdurdod lleol mewn cysylltiad â phersonau sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw;
(3) darpariaeth i’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i bersonau sydd y tu allan i ardal ei awdurdod lleol—
(a)adolygu’r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig a ddarperir i’r person hwnnw;
(b)hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw yn byw ynddo am unrhyw angen parhaus am wasanaethau cymorth; ac
(c)atgyfeirio’r person hwnnw i wasanaethau lleol perthnasol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).