Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 552 (Cy. 94)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018

Gwnaed

30 Ebrill 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mai 2018

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3, 34 a 35 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 1, 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw gorff arall yr ymddengys iddynt ei fod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2018.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4).

Diwygio Rheoliadau 2010

2.  Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 5.

Effeithlonrwydd dŵr

3.—(1Yn lle rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd) rhodder—

36.(1) This regulation applies where a dwelling is—

(a)erected; or

(b)formed by a material change of use of a building within the meaning of regulation 5(a) or (b).

(2) The potential consumption of wholesome water by persons occupying a dwelling to which this regulation applies must not exceed the requirement in paragraph (3).

(3) The requirement referred to in paragraph (2) is—

(a)where a dwelling is erected, 110 litres per person per day; or

(b)where a dwelling is formed by a material change of use of a building within the meaning of regulation 5(a) or (b), 125 litres per person per day,

as measured in either case in accordance with a methodology approved by the Welsh Ministers.

(2Yn rheoliad 37 (cyfrifo’r defnydd o ddŵr dihalog) yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Where regulation 36 applies, the person carrying out the work must give the local authority a notice which specifies the potential consumption of wholesome water per person per day in relation to the completed dwelling.

(3Yn Atodlen 1 (gofynion sy’n ymwneud â gwaith adeiladu) yn Rhan G (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr)—

(a)yn lle pennawd paragraff G2 (effeithlonrwydd dŵr) rhodder “Water efficiency of new dwellings”;

(b)ar ôl paragraff G2 mewnosoder y paragraff a ganlyn—

Water efficiency of new buildings other than dwellings and healthcare buildings

G2A

Reasonable provision must be made in the design and installation of any sanitary convenience(5), washbasin or shower so as to prevent the undue consumption of water.

Requirement G2A applies only to building work that consists of the erection or extension of a building which is not a dwelling or a healthcare building.

“Healthcare building” means—

(a)

a hospital;

(b)

a building used for the provision of medical services by a registered medical practitioner(6);

(c)

a building used for the provision of dental services by a person who under the Dentists Act 1984(7) is permitted to practise dentistry;

(d)

a building not falling within paragraphs (b) or (c) which is used for the provision of primary medical services or primary dental services under the National Health Service Act 2006(8) or the National Health Service (Wales) Act 2006(9);

(e)

a building at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016(10) is provided.

Torri rheoliadau penodol yn peidio â bod yn drosedd

4.  Yn lle rheoliad 47 rhodder—

47.  The following regulations are designated as provisions to which section 35 of the Act (penalty for contravening building regulations) does not apply—

(a)regulations 17, 17A, 25A, 27, 27A, 37, 41, 42, 43 and 44; and

(b)regulations 23, 25B and 26, in so far as these Regulations apply to Crown buildings or to building work carried out or proposed to be carried out by Crown authorities.

Diogelwch

5.  Yn Atodlen 1 ar ôl Rhan P (diogelwch o ran trydan) mewnosoder y Rhan a ganlyn—

PART Q SECURITY

Unauthorised access

Q1

Reasonable provision must be made to deter and resist unauthorised access to—

(a)

any dwelling; and

(b)

any part of a building from which access can be gained to a flat within the building.

Requirement Q1 applies only when a dwelling is erected.

Darpariaeth drosiannol

6.—(1Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 i 5 yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)gwaith adeiladu wedi cychwyn yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol; neu

(b)pan gydymffurfir â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig a bod y gwaith adeiladu wedi ei ddechrau o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” (“relevant notification provision”) yw rheoliad 12(2) o Reoliadau 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

30 Ebrill 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”).

Mae rheoliad 3(1) yn diwygio rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd) er mwyn cyflwyno gofyniad newydd sef pan fo annedd yn cael ei chodi, ni chaniateir i’r defnydd posibl o ddŵr dihalog gan bersonau sy’n meddiannu’r annedd fod yn fwy na 110 o litrau y person y dydd. Mae’r gofyniad presennol o 125 o litrau yn parhau pan fo newid defnydd sylweddol megis adeilad yn cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n cynnwys fflat, pan nad oedd o’r blaen yn y naill achos neu’r llall.

Mae rheoliad 3(3) yn ychwanegu paragraff G2A (effeithlonrwydd dŵr adeiladau newydd ac eithrio anheddau ac adeiladau gofal iechyd) i Ran G (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr) o Atodlen 1 (gofynion mewn perthynas â gwaith adeiladu). Nid yw’r gofyniad newydd yn gymwys i anheddau nac adeiladau gofal iechyd.

Effaith rheoliad 4 yw dynodi rheoliadau 23 (gofynion ar gyfer adnewyddu neu ailosod elfennau thermol), 25B (gofynion bron di-ynni ar gyfer adeiladau newydd) a 26 (cyfraddau allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau newydd) at ddibenion adran 35 o Ddeddf Adeiladu 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu) i’r graddau y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys i adeiladau’r Goron neu i waith adeiladu a wnaed gan awdurdodau’r Goron neu y bwriedir ei wneud ganddynt.

Mae rheoliad 5 yn ychwanegu Rhan Q (diogelwch) at Atodlen 1. Mae’r gofyniad newydd hwn yn gymwys i godi anheddau yn unig.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Gwneir rhai mân ddiwygiadau drafftio a chanlyniadol yn ogystal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.

(1)

1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 ac adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(2)

Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) a pharagraffau 1, 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwnnw. Roedd erthygl 3(a) o Orchymyn 2009 yn darparu nad oedd swyddogaethau wedi eu trosglwyddo i’r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas ag adeilad ynni a eithrir fel y’i diffinnir gan yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw. Mae adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) yn dileu’r eithriad hwn drwy wneud y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o dan Ddeddf 1984 ar gyfer y categori hwnnw o adeiladau.

(3)

Ychwanegwyd adran 14(7) gan Orchymyn 2009.

(4)

O.S. 2010/2214, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Gweler adran 126 (dehongli cyffredinol) o Ddeddf 1984 ar gyfer diffiniad o “sanitary convenience”.

(6)

Gweler Atodlen 1 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer y diffiniad o “registered medical practitioner”.