RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU
23 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
24 | Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn— (a) cyflenwi gwasanaethau i berson, neu (b) yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau— (i) i’r person arall hwnnw, neu (ii) i drydydd person. |
25 | Nid yw’r safonau yn gymwys i’r graddau y mae’r gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud ag ymchwil. |
26 | Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw. |
27 | At ddibenion y safonau— (a) nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon); (b) nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon). |
28 | (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1); (b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2); (ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006. |
29 | (1) Os— (a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) i (iii), neu (b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), nid yw’n ofynnol i berson neu gorff a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004(3) (“Deddf 2004”) gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)— (i)yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd; (ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y person neu’r corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng; a (iii)y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) yn daer. (2) Yr amod yw bod y person neu’r corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng. (3) Yn y paragraff hwn, mae i “argyfwng” yr un ystyr ag a roddir i “emergency” yn adran 1 o Ddeddf 2004 yn ddarostyngedig i is-baragraff (4). (4) Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”. |
30 | (1) Pan na fo’r argyfwng yn argyfwng o fewn ystyr paragraff 29, a— (a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) i (iii), neu (b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)— (i)yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd; (ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng; a (iii)y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) yn daer a’i fod yn digwydd y tu allan i adeilad ysbyty. (2) Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng. (3) Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”. |
31 | (1) Pan fo corff yn ymateb i’r hysbysiad am glefyd, haint, cyfrwng achosol neu halogi a amheuir o fewn ystyr Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4) (“Deddf 1984”) neu unrhyw reoliadau a wneir o dan Ddeddf 1984, ac— (a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) a (ii), neu (b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)— (i)yr amod cyntaf yw bod swyddog priodol (o fewn ystyr Deddf 1984) yn penderfynu bod yr achos yn daer; a (ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar glefyd, haint, halogi neu’r cyfrwng achosol neu effaith un o’r rheini. (2) Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng. (3) Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “clefyd, haint, halogi neu gyfrwng achosol” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug glefyd, haint, halogi neu gyfrwng achosol”. |
32 | At ddibenion safonau 2, 3 a 19, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon. |
33 | Nid yw safonau 1 i 5 yn gymwys i ohebiaeth sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion). |
34 | Nid yw safonau 4 a 5 yn gymwys i ohebiaeth rhwng corff a pherson (nad yw’n unigolyn) ynghylch un neu ragor o unigolion. |
35 | Nid yw safonau 8 i 10 a 13 i 16 yn gymwys i alwadau a wneir i’r rhifau ffôn a ganlyn— (a) 999; (b) 112. |
36 | Nid yw safon 19 yn gymwys i’r graddau y mae’r gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud â gwasanaeth gofal sylfaenol. |
37 | Yn safon 20, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol. |
38 | (1) Nid yw’r safonau yn is-baragraff (2) yn gymwys i gyfarfod rhwng y corff ac un neu ragor o bersonau i drafod asesu, diagnosio neu drin un neu ragor o unigolion a enwir ac nad yw’r un o’r unigolion hynny yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. (2) Y safonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw— (a)safonau 8 i 20 (galwadau ffôn); (b)safonau 21 i 22CH (cyfarfodydd); (c)safonau 26 i 30 (cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd); (ch)safon 32 (digwyddiadau cyhoeddus); (d)safonau 39 i 44 (gwefannau a gwasanaethau ar-lein); (dd)safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol). |
39 | (1) Nid yw’r safonau yn is-baragraff (2) yn gymwys i ymgynghoriad clinigol na chynhadledd achos (gweler safonau 23 i 24 ar gyfer cleifion mewnol a safon 25 ar gyfer cynadleddau achos). (2) Y safonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw— (a)safonau 8 i 20 (galwadau ffôn); (b)safonau 21 i 22CH (cyfarfodydd); (c)safonau 26 i 30 (cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd); (ch)safon 32 (digwyddiadau cyhoeddus); (d)safonau 39 i 44 (gwefannau a gwasanaethau ar-lein); (dd)safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol). |
40 | (3) Yn safon 25— (a)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 neu sy’n ŵyl gyhoeddus arall; (b)nid yw “diwrnod gwaith” yn cynnwys y diwrnod yr anfonwyd y gwahoddiad. |
41 | Nid yw safon 32 yn gymwys i— (a) perfformiadau o gerddoriaeth; (b) cynyrchiadau artistig neu ddramatig; (c) seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad; nac i (ch) unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar. |
42 | Nid yw safonau 32 a 64 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
43 | Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 39 i 44 (gwefannau ac apiau), 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol) a 57 (gwahoddiadau i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; neu (d) fformat cyhoeddi y deunydd. |
44 | At ddibenion safon 37, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i un neu ragor o unigolion yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i unigolion yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5). |
45 | (1) Nid yw safonau 36 a 38 yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (2) At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (3) Y ffurflenni yw— (a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 107A a 108 mewn perthynas â recriwtio); (b)ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 54 i 56 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau); ac (c)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 57 i 59 mewn perthynas â thendro am gontract). |
46 | Nid yw safonau 36 i 38 yn gymwys— (a) i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff; (b) i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen; (c) i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff; nac i (ch) pan fydd ffurflen neu ddogfen a lunnir gan y corff yn darparu gwybodaeth mewn perthynas ag unigolyn a enwir. |
47 | Nid yw safonau 39 i 43 (gwefannau) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 36 i 38 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod); nac i (c) tudalen we sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion). |
48 | (1) At ddiben safon 44, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig. (2) Nid yw safon 44 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff). |
49 | At ddiben safonau 39 i 41 (gwefannau), 44 (apiau) a 45 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu (b) pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol; ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio. |
50 | (1) Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 45 a 46 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). (2) Nid yw safonau 39 i 44 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 45 a 46 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). |
51 | Nid yw safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 36 i 38 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau); nac i (c) gwybodaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion). |
52 | At ddibenion safonau 50 i 53 (derbyn ymwelwyr)— (a) ystyr “derbynfa” yw ardal yn ysbytai, swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle croesawu personau yw prif rôl staff; a (b) ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i ysbytai, swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff y mae eu prif rôl at y diben hwnnw. |
53 | At ddibenion safonau 7 a 47 i 49, ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad. |
54 | At ddibenion safon 57 (gwahoddiad i dendro)— (a) nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. (b) mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (i) golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (ii) maint y deunydd; (iii) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (iv) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; neu (v) fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd; ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. |
55 | (1) At ddibenion safon 62, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu). (2) Nid yw safon 62 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol. |
56 | At ddibenion safon 63 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau unigolion; ond nid yw’n cynnwys— (a) cwrs addysg sy’n paratoi cyfranogwr ar gyfer cymhwyster neu arholiad; (b) cwrs addysg pan fo mwyafrif y cyfranogwyr yn ymgymryd â’r cwrs fel rhan o’u datblygiad proffesiynol; (c) cwrs addysg pan fydd mwyafrif y cyfranogwyr yn aelodau o staff; na (ch) cwrs addysg y telir ffi amdano. |
57 | At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol— (a) Deddf Seneddol; neu (b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. |