xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fo corff yn gohebu
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn
Safon 2:

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)

cadw cofnod o ddymuniad A,

(b)

gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)

anfon unrhyw ffurflenni y mae A i’w cwblhau o hynny ymlaen yn Gymraeg.

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd

Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at un neu ragor o unigolion sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—

(a)

yw pob unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at bob un o’r unigolion hynny;

(b)

yw un o’r unigolion (ond nid pob un ohonynt) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at bob un o’r unigolion hynny.

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)
Safon 4:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5:Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.
Safon 6:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau
Safon 8:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.
Safon 9:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 10:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 11:Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 12:Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.
Safon 13:Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 14:Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 15:Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 16:Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw, yn Gymraeg (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff
Safon 17:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)

hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 18:Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff
Safon 19:Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 20:Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.
3Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall
Safon 21:

Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod—

(a)

rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw, a

(b)

os yw P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 22:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 22A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 22B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 22C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 22CH:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
4Safonau ynghylch cleifion mewnol
Safon 23:Rhaid ichi ofyn i glaf mewnol (“A”) ar ddiwrnod cyntaf ei dderbyniad fel claf mewnol a yw A yn dymuno defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â chi yn ystod y derbyniad hwnnw fel claf mewnol.
Safon 23A:Os yw’r claf mewnol (“A”) yn eich hysbysu fod A yn dymuno defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â chi yn ystod derbyniad fel claf mewnol, rhaid ichi roi gwybod i’ch staff sy’n debygol o gyfathrebu ag A, fod A yn dymuno defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â chi yn ystod y derbyniad hwnnw fel claf mewnol.
Safon 24:Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi ar sut i gadarnhau a yw claf mewnol (“A”) yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn ystod ei dderbyniad fel claf mewnol os na all A eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu â chi yn ystod derbyniad fel claf mewnol.
5Safonau ynghylch cynadleddau achos
Safon 25:

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gynhadledd achos a gynhelir 5 neu ragor o ddiwrnodau gwaith ar ôl i’r gwahoddiad gael ei anfon—

(a)

rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y gynhadledd achos, a’i hysbysu y byddwch yn cynnal y gynhadledd yn Gymraeg, neu os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw, a

(b)

os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y gynhadledd achos, rhaid ichi gynnal y gynhadledd yn Gymraeg neu, os oes angen, ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.

6Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 26:Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad y cyhoedd ynddo, rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 27:Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad y cyhoedd ynddo, rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 28:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad y cyhoedd ynddo, rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)

os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 29:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad y cyhoedd ynddo, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 30:Os byddwch yn llunio ac yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
7Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 31:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 32:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion yr ydych yn eu llunio ac yn eu harddangos yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
8Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 33:Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
9Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 34:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 35:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
10Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau a ffurflenni
Safon 36:Os byddwch yn llunio ffurflen sydd i gael ei chwblhau gan unigolyn, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg.
Safon 37:

Os byddwch yn llunio dogfen (ond nid ffurflen) sydd ar gael i un neu ragor o unigolion, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 38:

Os byddwch yn llunio dogfen neu ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi—

(a)

peidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio);

(b)

peidio â gwahaniaethu rhwng y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg mewn perthynas ag unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ddogfen neu’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen, neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ddogfen neu’r ffurflen); ac

(c)

sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir fod y ddogfen neu’r ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.

11Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 39:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 40:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, fod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 41:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

Safon 42:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi ddatgan yn glir ar y dudalen Saesneg fod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid ichi ddarparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 43:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 44:Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
12Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 45:Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 46:Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
13Safonau ynghylch arwyddion a hysbysiadau a arddangosir neu a gyhoeddir gan gorff
Safon 47:

Pan fyddwch—

(a)

yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro); neu

(b)

yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad;

rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd neu’r hysbysiad gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd neu hysbysiad sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd neu hysbysiad ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

Safon 48:

Pan fyddwch—

(a)

yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro); neu

(b)

yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad;

sy’n cyfleu’r un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

Safon 49:Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a hysbysiadau yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
14Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff
Safon 50:Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg yn eich derbynfa hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn eich derbynfa beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 51:Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych yn eich derbynfa, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 52:Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
Safon 53:Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny.
15Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 54:Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 55:

Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi—

(a)

datgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg; a

(b)

peidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).

Safon 56:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.
16Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau
Safon 57:Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg os yw pwnc y contract yn awgrymu y dylai gael ei lunio yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 58:

Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi—

(a)

datgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg, a

(b)

peidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).

Safon 59:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.
17Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 60:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 61:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
18Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 62:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
19Safon ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 63:

Os byddwch yn cynnig cwrs addysg i un neu ragor o unigolion, rhaid ichi—

(a)

cynnal asesiad o’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg;

(b)

cynnig y cwrs hwnnw yn Gymraeg os dangosodd yr asesiad fod angen i’r cwrs gael ei gynnig yn Gymraeg.

20Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff
Safon 64:Pan fyddwch yn cyhoeddi neges wedi ei recordio dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.
21Safonau ynghylch gofal sylfaenol
Safon 65:Pan fyddwch yn gwybod bod darparwr gofal sylfaenol yn fodlon darparu gwasanaeth gofal sylfaenol neu ran o’r gwasanaeth gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid ichi ddynodi a chynnal tudalen ar eich gwefan (yn Gymraeg) sy’n cynnwys yr wybodaeth honno.
Safon 66:

Rhaid ichi—

(a)

darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg i ddarparwr gofal sylfaenol ei ddefnyddio er mwyn ei alluogi i gael cyfieithiadau Cymraeg o arwyddion neu hysbysiadau a arddangosir mewn cysylltiad â’i wasanaeth gofal sylfaenol, a

(b)

annog y defnydd o’r gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gennych yn unol â’r safon hon.

Safon 67:

Rhaid ichi—

(a)

rhoi ar gael i ddarparwr gofal sylfaenol fathodyn iddo ei wisgo neu i’w staff ei wisgo i gyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a

(b)

hybu i ddarparwr gofal sylfaenol wisgo’r bathodyn.

Safon 68:

Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi, gwybodaeth neu gynnal digwyddiadau fel y gall darparwr gofal sylfaenol ddatblygu—

(a)

ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru); a

(b)

dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

22Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

TABL 1

Colofn 1Colofn 2
RhesPrif safonSafon ddibynnol
(1)Ateb gohebiaeth
Safon 1Safon 7
(2)Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd
Safon 3Safon 6
(3)Gohebu â sawl person
Safon 4

Safon 6

Safon 7

(4)Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5

Safon 6

Safon 7

(5)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
Safon 7Safon 1
(6)Cael galwadau ffôn
Safon 9Safon 10
(7)Cael galwadau ffôn
Safon 10

Safon 9

Safon 13

(8)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg
Safon 13

Safon 10

Safon 15

a

Safon 16

(9)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 22

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 22A

Safon 22B

Safon 22C

a hefyd;

Safon 22CH

(10)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 22A, 22B, 22C neu 22CHSafon 22
(11)Cleifion mewnol
Safon 23Safon 23A
(12)Cleifion mewnol
Safon 23ASafon 23
(13)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 26Safon 29
(14)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 29Safon 26
(15)Dogfennau a ffurflenni
Safon 36 neu 37Safon 38
(16)Gwefannau
Safon 39, 40 neu 41Safon 42
(17)Arwyddion a hysbysiadau
Safon 47 neu 48Safon 49
(18)Derbynfa
Safon 50

Safon 52

Safon 53

(19)Derbynfa
Safon 51Safon 52
(20)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa
Safon 52

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 50

Safon 51

(21)Grantiau
Safon 55Safon 56
(22)Contractau
Safon 58Safon 59

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

23Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
24

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)

cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

25Nid yw’r safonau yn gymwys i’r graddau y mae’r gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud ag ymchwil.
26Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
27

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

28

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad;

(ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu

(d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1);

(b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

(ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

29

(1Os—

(a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) i (iii), neu

(b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2),

nid yw’n ofynnol i berson neu gorff a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004(3) (“Deddf 2004”) gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)—

(i)yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd;

(ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y person neu’r corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng; a

(iii)y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) yn daer.

(2Yr amod yw bod y person neu’r corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “argyfwng” yr un ystyr ag a roddir i “emergency” yn adran 1 o Ddeddf 2004 yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).

(4Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.

30

(1Pan na fo’r argyfwng yn argyfwng o fewn ystyr paragraff 29, a—

(a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) i (iii), neu

(b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2),

nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)—

(i)yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd;

(ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng; a

(iii)y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) yn daer a’i fod yn digwydd y tu allan i adeilad ysbyty.

(2Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.

31

(1Pan fo corff yn ymateb i’r hysbysiad am glefyd, haint, cyfrwng achosol neu halogi a amheuir o fewn ystyr Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4) (“Deddf 1984”) neu unrhyw reoliadau a wneir o dan Ddeddf 1984, ac—

(a)bodlonir yr amodau ym mharagraffau (i) a (ii), neu

(b)bodlonir yr amod yn is-baragraff (2),

nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (ii)—

(i)yr amod cyntaf yw bod swyddog priodol (o fewn ystyr Deddf 1984) yn penderfynu bod yr achos yn daer; a

(ii)yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar glefyd, haint, halogi neu’r cyfrwng achosol neu effaith un o’r rheini.

(2Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.

(3Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “clefyd, haint, halogi neu gyfrwng achosol” yn is-baragraff (1)(ii) i gael ei ddarllen fel “y ffug glefyd, haint, halogi neu gyfrwng achosol”.

32At ddibenion safonau 2, 3 a 19, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
33Nid yw safonau 1 i 5 yn gymwys i ohebiaeth sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion).
34Nid yw safonau 4 a 5 yn gymwys i ohebiaeth rhwng corff a pherson (nad yw’n unigolyn) ynghylch un neu ragor o unigolion.
35

Nid yw safonau 8 i 10 a 13 i 16 yn gymwys i alwadau a wneir i’r rhifau ffôn a ganlyn—

(a)

999;

(b)

112.

36Nid yw safon 19 yn gymwys i’r graddau y mae’r gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud â gwasanaeth gofal sylfaenol.
37Yn safon 20, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
38

(1Nid yw’r safonau yn is-baragraff (2) yn gymwys i gyfarfod rhwng y corff ac un neu ragor o bersonau i drafod asesu, diagnosio neu drin un neu ragor o unigolion a enwir ac nad yw’r un o’r unigolion hynny yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.

(2Y safonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)safonau 8 i 20 (galwadau ffôn);

(b)safonau 21 i 22CH (cyfarfodydd);

(c)safonau 26 i 30 (cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd);

(ch)safon 32 (digwyddiadau cyhoeddus);

(d)safonau 39 i 44 (gwefannau a gwasanaethau ar-lein);

(dd)safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol).

39

(1Nid yw’r safonau yn is-baragraff (2) yn gymwys i ymgynghoriad clinigol na chynhadledd achos (gweler safonau 23 i 24 ar gyfer cleifion mewnol a safon 25 ar gyfer cynadleddau achos).

(2Y safonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)safonau 8 i 20 (galwadau ffôn);

(b)safonau 21 i 22CH (cyfarfodydd);

(c)safonau 26 i 30 (cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd);

(ch)safon 32 (digwyddiadau cyhoeddus);

(d)safonau 39 i 44 (gwefannau a gwasanaethau ar-lein);

(dd)safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol).

40

(3Yn safon 25—

(a)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 neu sy’n ŵyl gyhoeddus arall;

(b)nid yw “diwrnod gwaith” yn cynnwys y diwrnod yr anfonwyd y gwahoddiad.

41

Nid yw safon 32 yn gymwys i—

(a)

perfformiadau o gerddoriaeth;

(b)

cynyrchiadau artistig neu ddramatig;

(c)

seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad; nac i

(ch)

unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar.

42Nid yw safonau 32 a 64 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.
43

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 39 i 44 (gwefannau ac apiau), 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol) a 57 (gwahoddiadau i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; neu

(d)

fformat cyhoeddi y deunydd.

44At ddibenion safon 37, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i un neu ragor o unigolion yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i unigolion yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5).
45

(1Nid yw safonau 36 a 38 yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3Y ffurflenni yw—

(a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 107A a 108 mewn perthynas â recriwtio);

(b)ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 54 i 56 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau); ac

(c)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 57 i 59 mewn perthynas â thendro am gontract).

46

Nid yw safonau 36 i 38 yn gymwys—

(a)

i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff;

(b)

i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen;

(c)

i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff; nac i

(ch)

pan fydd ffurflen neu ddogfen a lunnir gan y corff yn darparu gwybodaeth mewn perthynas ag unigolyn a enwir.

47

Nid yw safonau 39 i 43 (gwefannau) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 36 i 38 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod); nac i

(c)

tudalen we sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion).

48

(1At ddiben safon 44, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2Nid yw safon 44 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

49

At ddiben safonau 39 i 41 (gwefannau), 44 (apiau) a 45 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)

pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

50

(1Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 45 a 46 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2Nid yw safonau 39 i 44 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 45 a 46 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

51

Nid yw safonau 45 a 46 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 36 i 38 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau); nac i

(c)

gwybodaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys adroddiad ymgynghoriad clinigol (gan gynnwys, er enghraifft, ganlyniadau profion).

52

At ddibenion safonau 50 i 53 (derbyn ymwelwyr)—

(a)

ystyr “derbynfa” yw ardal yn ysbytai, swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle croesawu personau yw prif rôl staff; a

(b)

ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i ysbytai, swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff y mae eu prif rôl at y diben hwnnw.

53At ddibenion safonau 7 a 47 i 49, ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
54

At ddibenion safon 57 (gwahoddiad i dendro)—

(a)

nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(b)

mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(i)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(ii)

maint y deunydd;

(iii)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(iv)

pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; neu

(v)

fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

55

(1At ddibenion safon 62, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 62 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

56

At ddibenion safon 63 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau unigolion; ond nid yw’n cynnwys—

(a)

cwrs addysg sy’n paratoi cyfranogwr ar gyfer cymhwyster neu arholiad;

(b)

cwrs addysg pan fo mwyafrif y cyfranogwyr yn ymgymryd â’r cwrs fel rhan o’u datblygiad proffesiynol;

(c)

cwrs addysg pan fydd mwyafrif y cyfranogwyr yn aelodau o staff; na

(ch)

cwrs addysg y telir ffi amdano.

57

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)

Deddf Seneddol; neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.