Search Legislation

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cymhwyso, dehongli a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Llety Diogel” yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015(1).

(4Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Llety Diogel

2.—(1Mae’r Rheoliadau Llety Diogel wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (4) o reoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn lle’r diffiniad o “llety diogel” rhodder—

ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”), oni noda’r geiriad fod ei ystyr wedi ei gyfyngu i lety yng Nghymru, yw llety a ddarperir—

(a)

yng Nghymru at ddiben cyfyngu ar ryddid plant y mae’r meini prawf ym mharagraffau (a) neu (b) o adran 119(1) o’r Ddeddf yn gymwys iddynt,

(b)

yn Lloegr at ddiben cyfyngu ar ryddid plant y mae’r meini prawf ym mharagraffau (a) neu (b) o adran 25(1) o Ddeddf Plant 1989(2) yn gymwys iddynt, neu

(c)

gan wasanaeth llety diogel yn yr Alban fel y diffinnir “secure accommodation service” ym mharagraff 6 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(3);.

(3Yn lle paragraff (5) o reoliad 1 rhodder—

(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at gofrestru gwasanaeth llety diogel yng Nghymru neu at berson sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth o’r fath yn rheoliadau 8, 9 a 12 yn gyfeiriadau at gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4).

(4Yn rheoliad 4 (ceisiadau i’r llys), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Ond pan fo rheoliad 16(1)(a) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â phlant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y mae llety yn cael ei ddarparu iddynt neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg, yna ni chaniateir ceisiadau i lys ond gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n darparu neu’n trefnu’r llety, neu gan yr awdurdod lleol sy’n trefnu’r llety.

(3) Pan fo rheoliad 16(1)(b) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â phlant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y mae llety yn cael ei ddarparu iddynt mewn ysbyty annibynnol neu gartref gofal, yna ni chaniateir ceisiadau i lys ond gan yr ysbyty annibynnol neu’r cartref gofal sy’n darparu’r llety.

(5Yn rheoliad 6 (cyfnodau hwyaf awdurdodiad gan y llys)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl “baragraff (2)” mewnosoder “o’r rheoliad hwn a rheoliad 7”;

(ii)ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”; a

(b)ym mharagraff (2) ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”.

(6Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfnod hwyaf awdurdodiad ar gyfer plant sydd ar remánd), ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”.

(7Yn lle rheoliad 8 (lleoliad mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru), rhodder—

8.  Ni chaiff awdurdod lleol ond lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn llety diogel—

(a)a ddarperir yng Nghymru gan wasanaeth llety diogel y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef,

(b)mewn cartref yn Lloegr sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid, neu

(c)a ddarperir gan wasanaeth llety diogel yn yr Alban.

(8Yn lle pennawd rheoliad 8 rhodder “Lleoli mewn lleoliad rheoleiddiedig”.

(9Yn lle rheoliad 9 (dyletswydd i roi gwybodaeth am leoliad mewn llety diogel) rhodder—

9.(1) Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn mangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth llety diogel gan berson ac eithrio’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, rhaid i’r person sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn fod y plentyn wedi ei leoli yno o fewn 12 awr i’r lleoliad ddechrau.

(2) Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau wedyn wrth y person cofrestredig—

(a)ei awdurdodiad i gadw’r plentyn mewn llety diogel;

(b)cyfnod yr awdurdodiad;

(c)manylion unrhyw orchymyn a wneir gan lys sy’n awdurdodi’r lleoliad.

(10Yn lle rheoliad 12 (cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â phlentyn mewn llety diogel mewn cartref plant) rhodder—

12.  Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn mangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth llety diogel, rhaid i’r personau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety diogel mewn cysylltiad â’r fangre honno gynnal cofnod ar gyfer y plentyn hwnnw, sy’n cynnwys y canlynol—

(a)enw, dyddiad geni a rhyw y plentyn hwnnw;

(b)manylion y gorchymyn gofal neu ddarpariaethau statudol eraill y lleolir y plentyn yn y fangre y darperir gwasanaeth llety diogel ynddi yn ei rinwedd neu yn eu rhinwedd;

(c)manylion yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n lleoli’r plentyn ac enw’r swyddog awdurdodi;

(d)dyddiad ac amser dechrau’r lleoliad mewn llety diogel;

(e)y rheswm dros y lleoliad;

(f)cyfeiriad y man lle’r oedd y plentyn yn byw cyn y lleoliad;

(g)enwau a manylion perthnasol y personau a hysbysir yn rhinwedd rheoliad 5 ynghylch lleoliad y plentyn;

(h)manylion unrhyw orchmynion llys a wneir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 119 o’r Ddeddf;

(i)manylion adolygiadau a gynhelir o dan reoliad 11;

(j)dyddiad ac amser unrhyw gyfnodau pan yw’r plentyn o dan glo ar ei ben ei hun mewn unrhyw ystafell ac eithrio ei ystafell wely yn ystod oriau gwely arferol, enw’r person sy’n awdurdodi gweithredu felly, y rheswm dros wneud hynny, a’r dyddiad a’r amser y mae’r plentyn yn peidio â bod o dan glo yn yr ystafell honno;

(k)dyddiad ac amser rhyddhau’r plentyn o’r llety diogel a chyfeiriad y plentyn ar ôl ei ryddhau o’r llety diogel.

(11Ym mhennawd rheoliad 12, yn lle “cartref plant” rhodder “lleoliad rheoleiddiedig”.

(12Ym mharagraff (1) o reoliad 15 (plant dan gadwad y mae adran 119 yn gymwys iddynt gydag addasiadau: plant dan gadwad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”.

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2018

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources