xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002

5.  Mae Deddf Enillion Troseddau 2002(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 47A(2)(2) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(c)yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)yn adran 290(4)(c)(3) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(e)yn adran 303A(1)(4) (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(f)yn adran 352(7)(5) (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(g)yn adran 353(11)(6) (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(h)yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(i)yn adran 378(3AA)(b)(7) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(j)yn adran 378(3B)(8) (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a

(k)yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

(2)

Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(3)

Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.

(4)

Mewnosodwyd adran 303A gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Mewnosodwyd adran 352(7) gan adran 80(2) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(6)

Mewnosodwyd adran 353(11) gan adran 80(4) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(7)

Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.

(8)

Mewnosodwyd adran 378(3B) gan adran 80(8) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.