xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 285 (Cy. 54)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Gwnaed

26 Chwefror 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015

2.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015(2) (awdurdodau llywodraeth ganolog), ar ôl “Welsh NHS Bodies” mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority.

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010

3.  Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3) (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “other public authorities”, cyn “The Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru.” mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015

4.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015(4) (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol yn y tabl—

Awdurdod Cyllid CymruCadeirydd ac aelodau a benodwyd o dan adran 3(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002

5.  Mae Deddf Enillion Troseddau 2002(5) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 47A(2)(6) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(c)yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)yn adran 290(4)(c)(7) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(e)yn adran 303A(1)(8) (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(f)yn adran 352(7)(9) (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(g)yn adran 353(11)(10) (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(h)yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(i)yn adran 378(3AA)(b)(11) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(j)yn adran 378(3B)(12) (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a

(k)yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn darparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) i’w drin fel “central government authority” at ddibenion y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn darparu bod ACC i’w drin fel “relevant Welsh authority” at ddibenion y Ddeddf honno.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 er mwyn darparu bod cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2015/102, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/275; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 2015/1536, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(7)

Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.

(8)

Mewnosodwyd adran 303A gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 11 iddi.

(9)

Mewnosodwyd adran 352(7) gan adran 80(2) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(10)

Mewnosodwyd adran 353(11) gan adran 80(4) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(11)

Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.

(12)

Mewnosodwyd adran 378(3B) gan adran 80(8) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.