- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8. Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw jam ecstra—
(a)yn achos jam ecstra egroes—
(i)siwgr;
(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a
(iii)dŵr;
(b)yn achos jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America a chyrains cochion—
(i)siwgr;
(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a
(iii)dŵr;
(c)mewn achosion eraill—
(i)siwgr;
(ii)mwydion annwysedig un neu ragor o fathau o ffrwythau; a
(iii)dŵr.
9. Er gwaethaf is-baragraffau (a)(i), (b)(i) ac (c)(i) o baragraff 8, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jam ecstra naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.
10. Er gwaethaf paragraff 8(c)(ii), caniateir cael jam sitrws ecstra o’r ffrwythau cyfan, wedi eu torri’n stribedi, wedi eu sleisio neu wedi eu torri’n stribedi ac wedi eu sleisio.
11. Rhaid peidio â chymysgu’r ffrwythau a ganlyn â ffrwythau eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra—
(a)afalau;
(b)gellyg;
(c)eirin careglynol;
(d)melonau;
(e)melonau dŵr;
(f)grawnwin;
(g)pwmpenni;
(h)cucumerau;
(i)tomatos.
12. Rhaid i swm y mwydion ffrwythau (neu’r piwrî ffrwythau, neu’r piwrî ffrwythau a’r mwydion ffrwythau, yn achos cynnyrch y mae paragraff 8(a) neu (b) yn gymwys iddo) a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—
(a)350 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrains cochion;
(ii)criafol;
(iii)aeron helyg y môr;
(iv)cyrains duon;
(v)egroes;
(vi)cwins;
(b)250 gram yn achos sinsir;
(c)230 gram yn achos afalau cashiw;
(d)80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac
(e)450 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.
13. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;
(c)suddoedd ffrwythau coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—
(i)egroes;
(ii)mefus;
(iii)mafon;
(iv)gwsberins;
(v)cyrains cochion;
(vi)eirin;
(vii)rhiwbob;
(d)pilion sitrws;
(e)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.
14. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.
15. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: