62. Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “Y” wedi ei disodli gan—
(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) y math neu’r mathau hynny o ffrwyth; neu
(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) mwy nag un math o ffrwyth.