1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT;
ystyr “CUT” (“UTRN”) yw’r cyfeirnod unigryw trafodiad a ddyrennir i drafodiad tir gan ACC at ddibenion treth trafodiadau tir;
“dyroddwr bond” (“bond-issuer”) yw “B” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen;
ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a
“perchennog gwreiddiol” (“original owner”) yw “A” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen.