Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

DehongliLL+C

23.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

(a)priod neu bartner sifil A; neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

ystyr “BG” (CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16 neu 22;

ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

(a)

adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(1) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)(2), neu

(b)

Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(3) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

1973 p. 18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(2)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.

(3)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.