YR ATODLENNI

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig1

1

Person—

a

sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

i

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a

ii

yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

c

na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).

2

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).