YR ATODLENNI

ATODLEN 1Dehongli

Sefydliadau addysgol2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” yw—

i

sefydliad rheoleiddiedig Cymreig,

ii

sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,

iii

sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban, neu

iv

sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;

b

ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yw sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 201541 ac sy’n parhau mewn grym;

c

ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.