RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 5Trosglwyddo a throsi

Effaith trosglwyddiad – benthyciadau at ffioedd dysgu29

Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd, mae swm y benthyciad at ffioedd dysgu sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo, yn unol â Rhan 6, symiau’r benthyciad at ffioedd dysgu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—

a

yr hen gwrs, a

b

y cwrs newydd,

ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

Cam 2

Gostwng y symiau hyn yn ôl y gyfran honno y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol ar ôl rhoi sylw i—

a

y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

b

yr angen i sicrhau nad yw unrhyw swm yn daladwy mewn cysylltiad â’r ddau gwrs ar gyfer yr un cyfnod.