RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 4Astudio blaenorol

Codi’r cyfyngiadau pan geir hysbysiad anghywir26

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo person â gradd anrhydedd o fewn ystyr rheoliad 24 neu berson graddedig o fewn ystyr rheoliad 25 (“G”) wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd anrhydedd neu, yn ôl y digwydd, radd gyntaf, a ddyfarnwyd i’r person o’r blaen, a

b

pan fo G yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan yn anghywir fod G yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff G gymhwyso i gael y cymorth a bennir yn yr hysbysiad am y cyfnod hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.

3

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan G yn sylweddol anghywir.