Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

RHAN 10LL+CGRANTIAU AT DEITHIO

Grant at deithioLL+C

64.  Mae grant at deithio yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 65(1) neu 66(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 64 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygolLL+C

65.—(1Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser mewn—

(a)meddygaeth, neu

(b)deintyddiaeth,

y mae rhan angenrheidiol ohono yn gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol.

Amod 2

Yn y flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd i wariant at ddiben bod yn bresennol mewn—

(a)ysbyty, neu

(b)mangre arall,

yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol) er mwyn ymgymryd â hyfforddiant clinigol fel rhan o’r cwrs.

Amod 3

Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

(2Ond nid yw grant at deithio ar gael pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

(3Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Penderfynu ar swm y gwariant rhesymol y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo yn y flwyddyn academaidd o dan sylw at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1) (gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y diben hwnnw cyn neu ar ôl bod yn bresennol yn yr ysbyty neu yn y fangre arall).

Cam 2

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn [F1llai na £59,200] mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £303 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn [F2£59,200 neu ragor] mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £1,000 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy.

(4Nid yw gwariant yr eir iddo at ddiben cyfnod o astudio preswyl i ffwrdd o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol yn wariant yr eir iddo at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 65 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramorLL+C

66.—(1Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.

Amod 2

Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—

(a)sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu

(b)lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,

(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).

Amod 3

Mae’r myfyriwr yn mynd i—

(a)costau teithio, neu

(b)unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),

at ddiben y lleoliad.

(2Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

(X  Y) + Z

Pan—

  • X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;

  • Y yw—

    (a)

    £303 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn [F3llai na £59,200] mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw, neu

    (b)

    £1,000 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn [F4£59,200 neu ragor] mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno;

  • Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

  • Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).

(3Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—

(a)gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;

(b)cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;

(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 66 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Grant at deithio nad yw’n daladwy ar gyfer gwariant a gwmpesir gan y grant myfyriwr anablLL+C

67.  Pan fo grant myfyriwr anabl yn daladwy i gynorthwyo myfyriwr cymwys gyda gwariant y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr, nid yw grant at deithio yn daladwy o dan reoliad 65 neu 66 mewn cysylltiad â’r un gwariant.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 67 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)