RHAN 10GRANTIAU AT DEITHIO

Grant at deithioI164

Mae grant at deithio yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 65(1) neu 66(1).

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 64 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygolI265

1

Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser mewn—

a

meddygaeth, neu

b

deintyddiaeth,

y mae rhan angenrheidiol ohono yn gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol.

Amod 2

Yn y flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd i wariant at ddiben bod yn bresennol mewn—

a

ysbyty, neu

b

mangre arall,

yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol) er mwyn ymgymryd â hyfforddiant clinigol fel rhan o’r cwrs.

Amod 3

Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

2

Ond nid yw grant at deithio ar gael pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

3

Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Penderfynu ar swm y gwariant rhesymol y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo yn y flwyddyn academaidd o dan sylw at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1) (gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y diben hwnnw cyn neu ar ôl bod yn bresennol yn yr ysbyty neu yn y fangre arall).

Cam 2

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn F1llai na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £303 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn F2£59,200 neu ragor mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £1,000 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy.

4

Nid yw gwariant yr eir iddo at ddiben cyfnod o astudio preswyl i ffwrdd o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol yn wariant yr eir iddo at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1).

Grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramorI366

1

Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.

Amod 2

Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—

a

sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu

b

lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,

(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).

Amod 3

Mae’r myfyriwr yn mynd i—

a

costau teithio, neu

b

unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),

at ddiben y lleoliad.

2

Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

(XY)+Zmath

Pan—

  • X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;

  • Y yw—

    1. a

      £303 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn F3llai na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw, neu

    2. b

      £1,000 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn F4£59,200 neu ragor mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno;

  • Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

  • Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).

3

Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—

a

gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;

b

cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;

c

costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.

Grant at deithio nad yw’n daladwy ar gyfer gwariant a gwmpesir gan y grant myfyriwr anablI467

Pan fo grant myfyriwr anabl yn daladwy i gynorthwyo myfyriwr cymwys gyda gwariant y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr, nid yw grant at deithio yn daladwy o dan reoliad 65 neu 66 mewn cysylltiad â’r un gwariant.