Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20138

Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

a

ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

b

ar ôl paragraff 28A mewnosoder—

28B

Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.