- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).
Yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
3. Mae’r cyfraddau a ganlyn wedi eu rhagnodi yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017—
(a)y gyfradd safonol yw £88.95;
(b)y gyfradd is yw £2.80; ac
(c)y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £133.45.
Mark Drakefor
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r gyfradd safonol gyntaf, y gyfradd is gyntaf a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi gyntaf ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi a byddant yn gymwys i warediad trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny. Mae Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) yn nodi’r hyn sy’n warediad trethadwy.
Y gyfradd safonol yw £88.95, y gyfradd is yw £2.80 a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £133.45.
Ar gyfer gwarediad trethadwy a wneir mewn safle tirlenwi awdurdodedig, mae’r dreth i gael ei chyfrifo drwy gyfeirio at bwysau a math y deunydd sy’n cael ei waredu, yn unol ag adran 14 o’r Ddeddf.
Ar gyfer gwarediad trethadwy a wneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig, mae’r dreth i gael ei chyfrifo drwy gyfeirio at bwysau’r deunydd sy’n cael ei waredu, yn unol ag adran 46 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: