- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Chwefror 2018
Yn dod i rym
23 Chwefror 2018
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymreig, neu ar eu rhan.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “hysbysiad galw am dalu” yw hysbysiad galw am dalu o fewn yr ystyr a roddir i “demand notice” yn Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(3) a gyflwynir gan awdurdod bilio neu unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu ardrethi annomestig (gan gynnwys hysbysiad o’r fath a gyflwynir yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(4) (cydberchnogion a chydfeddianwyr)).
2. Ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(5) (nodiadau esboniadol), yn y paragraff o’r enw rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, yn lle “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015”(6) rhodder “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017”(7).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, neu ar eu rhan. Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol y mae’n rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n gymwys yng Nghymru.
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017”) (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi newydd i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 fel bod yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau esboniadol sy’n mynd gyda hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cyfeirio at Orchymyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 41. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15). Diwygiwyd paragraff 2(2)(h) o Atodlen 9 gan adran 8(1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17); ac adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraffau 1, 44(2), (3) a (4) o Atodlen 5 a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) , a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1989/1058 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1990/145, 1992/1512, 1993/616, 1993/774, 1993/1493, 2009/461 (Cy. 48), 2010/2222 (Cy. 194), 2012/466 (Cy. 77) ac O.S. 2017/113 (Cy. 39).
O.S. 1990/145 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/616 ac O.S. 2014/600.
O.S. 2015/229 (Cy. 11) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/32 (Cy. 13) ac O.S. 2017/25 (Cy. 9).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: