xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2018
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.”;
(c)hepgorer paragraffau (4) a (5).
(4) Hepgorer Atodlen 2.
(5) Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;
(b)hepgorer paragraff 2(a).
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629 (Cy. 225)) (“Rheoliadau 2006”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996 dyddiedig 19 Mai 2015 sy’n sefydlu dulliau cyffredin o asesu sŵn yn unol â Chyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 168, 1.7.2015, t. 1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dulliau cyffredin newydd o asesu sŵn fel y nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy’n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (OJ Rhif L 189, 18.7.2002, t. 12) (“y Gyfarwyddeb”), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r diffiniad o “Cyfarwyddeb” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006.
Mae rheoliad 2(3)(a) yn diwygio paragraff (3) o reoliad 4 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol canfod gwerthoedd Lden, Lnight a dangosyddion sŵn atodol yn y safle asesu ac yn unol â’r fethodoleg yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.
Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2006, sy’n diffinio’r term “safle asesu” at ddibenion paragraff (3).
Mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 4 o Reoliadau 2006, ac Atodlen 2 iddynt, wedi eu hepgor.
Mae rheoliad 2(5) yn hepgor y dangosydd sŵn atodol “LA10, 18h” yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
O.S. 2004/706. Yn rhinwedd paragraffau 28(1) a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae O.S. 2004/706 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2006/2629 (Cy. 225), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/47 (Cy. 15).