xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a ddyroddwyd gan ACC o dan reoliad 6 nas tynnwyd yn ôl;
ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;
ystyr “y ganran colled wrth danio” (“LOI percentage”) yw swm y deunydd anghymwys sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fel y dangosir gan y ganran o fàs y gronynnau mân hynny a gollir wrth danio;
ystyr “yr hysbysiad ACC” (“the WRA notice”) yw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan adran 17(5) o DTGT nas tynnwyd yn ôl drwy hysbysiad cyhoeddedig dilynol;
ystyr “prawf colled wrth danio” (“LOI test”) yw prawf i ganfod canran colled wrth danio cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.
4.—(1) Rhaid bodloni’r gofynion a ganlyn (yn ogystal â gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.
Gofyniad 1
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediad trethadwy o’r cymysgedd fod wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.
Gofyniad 2
Rhaid i’r gweithredwr feddu ar y dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC ynghylch cymryd y camau hynny.
Gofyniad 3
Os cynhaliwyd prawf colled wrth danio ar sampl o’r gwarediad trethadwy, ni chaiff y ganran colled wrth danio a ddangoswyd gan y prawf fod yn uwch na 10% (ond gweler paragraff (3)).
Gofyniad 4
Ni chaiff y cymysgedd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy fod wedi’i wahardd rhag cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn rhinwedd rheoliad 5(3).
(2) Caiff ACC benderfynu bod gofyniad 2 i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Caiff yr hysbysiad ACC bennu amgylchiadau lle caniateir anwybyddu prawf colled wrth danio sy’n dangos bod y ganran colled wrth danio yn uwch na 10%.
5.—(1) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn er mwyn i gymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau pan fyddant yn cael eu gwaredu ar y safle.
Gofyniad 1
Rhaid i’r gweithredwr gynnal prawf colled wrth danio ar y cymysgeddau—
(a)ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad ACC, oni roddir cyfarwyddyd i’r gweithredwr wneud fel arall o dan reoliad 6, neu
(b)os rhoddir cyfarwyddyd o’r fath i’r gweithredwr, ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gofyniad 2
Rhaid i’r gweithredwr, wrth gynnal pob prawf colled wrth danio—
(a)cynhesu sampl o’r cymysgedd a brofir i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr, a
(b)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn yr hysbysiad ACC sy’n ymwneud â chynnal y prawf.
Gofyniad 3
Pan fo—
(a)prawf colled wrth danio yn cael ei gynnal ar sampl o gymysgedd, a
(b)y ganran colled wrth danio a ddangosir gan y prawf yn uwch na 10%,
rhaid i’r gweithredwr gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.
Gofyniad 4
Rhaid i’r gweithredwr—
(a)cadw’r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC mewn perthynas â phob prawf colled wrth danio a gynhelir gan y gweithredwr, a
(b)storio’r dystiolaeth yn ddiogel am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff ACC benderfynu bod y gweithredwr i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofyniad 4 os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Pan fo’r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1), mae cymysgeddau o ronynnau mân sydd wedi eu cynnwys mewn gwarediadau trethadwy o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad ACC wedi eu gwahardd rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.
6.—(1) Caiff ACC drwy hysbysiad roi cyfarwyddyd i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal prawf colled wrth danio ar unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau—
(a)yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân,
(b)sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, ac
(c)sy’n bresennol ar y safle.
(2) Caniateir amrywio cyfarwyddyd a roddwyd o dan y rheoliad hwn neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
7.—(1) Caiff ACC—
(a)cymryd sampl o unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau ar safle tirlenwi awdurdodedig yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, a
(b)cynnal prawf colled wrth danio ar y sampl.
(2) Pan fo ACC yn gwneud hynny, rhaid iddo—
(a)cynnal y prawf drwy gynhesu is-sampl o’r sampl i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr,
(b)dyroddi hysbysiad am y ganran colled wrth danio a ganfyddir gan y prawf i weithredwr y safle,
(c)cadw—
(i)nid llai nag 1kg o’r sampl, a
(ii)cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio,
(d)storio’r gyfran a gedwir o’r sampl yn ddiogel am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth berthnasol, ac
(e)storio’r cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio yn ddiogel am y cyfnod y byddai’n ofynnol i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ei gadw o dan adran 38 o DCRhT (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel).
(3) Ym mharagraff (2)(d), y “ffurflen dreth berthnasol” yw’r ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y rhoddir cyfrif arni am y dreth sydd i’w chodi am waredu’r cymysgedd.