Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 No. 965 (Cy. 248)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017

Gwnaed

3 Hydref 2017

Laid before the National Assembly for Wales

5 Hydref 2017

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 347(2), 544(2), 546 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), ac yn adrannau 203(3) a 210(1) o Ddeddf Addysg 2002(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989(3); a

(b)Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001(4).

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

3.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(5) hepgorer paragraff 7.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 (“Rheoliadau 1989”) (rheoliad 2). Mae hyn yn dileu’r gofyniad yn Rheoliadau 1989—

(a)i ysgolion a gynhelir, ysgolion nas cynhelir a sefydliadau addysg bellach gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn defnyddio, at ddibenion hyfforddi, sylweddau ymbelydrol penodol a chyfarpar penodol (“y Gofyniad”); a

(b)i hostelau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gael eu harolygu. Nid oes unrhyw hostelau o’r fath yng Nghymru mwyach ac felly mae’r gofyniad i arolygu yn ddiangen.

Roedd y Gofyniad hefyd yn gymwys i sefydliadau addysg uwch. Fodd bynnag, yn dilyn diddymu adran 218(1)(e), (f) a (7) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gan Ran 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2002, nid yw’r Gofyniad yn gymwys mwyach i sefydliadau addysg uwch.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu’r gofyniad yn Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 i ysgolion annibynnol a gymeradwyir o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn defnyddio sylweddau a chyfarpar o’r fath at ddibenion hyfforddi (rheoliad 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1996 p. 56. Diwygiwyd adran 546 gan baragraff 162 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a chan O.S. 2011/1158. Diwygiwyd adran 563 gan baragraff 172 o Atodlen 30 i’r Ddeddf honno. Rhoddwyd y swyddogaethau yn adrannau 347, 544, 546 a 569 o Ddeddf Addysg 1996 i’r Ysgrifennydd Gwladol ac fe’u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

2002 p. 32. Diwygiwyd adran 203(5) gan baragraff 13(1) a (5)(b) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21). Rhoddwyd y swyddogaethau yn adran 203 o Ddeddf Addysg 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

O.S. 1989/351 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2001/692 ac O.S. 2004/57. Dirymwyd y Rheoliadau hyn o ran Lloegr gan O.S. 2008/1701.

(5)

O.S. 1994/651. Dirymwyd y Rheoliadau hyn o ran Lloegr gan O.S. 2008/1701.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources