xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
26 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
2. 1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—
(a)adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;
(b)adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);
(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—
(i)adran 59 o Ddeddf Plant 1989(2);
(ii)adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989;
(iii)adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005(3);
(iv)adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006(4)(5).
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
26 Medi 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r nawfed Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”), sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn darparu mai 1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau o’r Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru—
(a)adran 8(2) ac Atodlen 1 i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;
(b)adran 10(2);
(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—
(i)adrannau 59 a 105(1) o Ddeddf Plant 1989,
(ii)adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005,
(iii)adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mae paragraff 19 o Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i ystyr “childcare” yn adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mae adran 10(2) yn mewnosod adran 25C yn Neddf Plant 1989, sy’n cynnwys pŵer i wneud rheoliadau er mwyn i’r Arglwydd Ganghellor estyn swyddogaethau statudol Swyddogion Adolygu Annibynnol (sydd â swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 8(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 8(1) (at y dibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2016 | 2016/452 (Cy. 143) (C. 22) |
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraff 4 o Atodlen 1 | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 3(1), (2) a (3), 5, 6, 15, 16 i 18 ac 21 o Atodlen 1 | 6 Ebrill 2016 | 2016/452 (Cy. 143) (C. 22) |
Adran 8(3) ac Atodlen 2 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy. 77) (C. 51) |
Adran 10(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 10(1) (at y dibenion sy’n weddill), a 10(3) | 6 Ebrill 2016 | 2016/452 (Cy. 143) (C. 22) |
Adran 15 (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Mawrth 2011 | 2011/949 (Cy. 135) (C. 37) |
Adran 16(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2016 | 2016/452 (Cy. 143) (C. 22) |
Adran 19 | 28 Mawrth 2011 | 2011/949 (Cy. 135) (C. 37) |
Adran 20(3) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill) | 1 Medi 2011 | 2011/949 (Cy. 135) (C. 37) |
Adran 21(2) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill) | 18 Mawrth 2011 | 2011/824 (Cy. 123) (C. 32) |
Adran 22(3) a (5) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 22 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | 2012/1553 (Cy. 206) (C. 58) |
Adran 23(1) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | 2012/1553 (Cy. 206) (C. 58) |
Adran 24 | 19 Mehefin 2012 | 2012/1553 (Cy. 206) (C. 58) |
Adran 25(4) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 25 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | 2012/1553 (Cy. 206) (C. 58) |
Adran 27 | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 28 | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 29 (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 29 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Mawrth 2011 | 2011/949 (Cy. 135) (C. 37) |
Adran 30 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy. 64) (C. 47) |
Adran 33 | 26 Ebrill 2010 | 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81) |
Adran 34 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy. 77) (C. 51) |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy. 64) (C. 47) |
Adran 36 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy. 175) (C. 91) |
Adran 37 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy. 175) (C. 91) |
Adran 38 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy. 175) (C. 91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy. 64) (C. 47) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu’n rhannol adran 91(1) o Ddeddf Plant 1989 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy. 175) (C. 91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy. 77) (C. 51) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 104 o Ddeddf Plant 1989 a diddymu’n rhannol adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 | 28 Mawrth 2011 | 2011/949 (Cy. 135) (C. 37) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 17(6), diddymu adran 23B(4) i (7) a diddymu’n rhannol baragraff 6(1) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 | 19 Mehefin 2012 | 2012/1553 (Cy. 206) (C. 58) |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 26(2)(k) a (2A) i (2D) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2016 | 2016/452(Cy. 143) (C. 22) |
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 17 | 1 Ebrill 2011 | 2010/2981 (C. 131) |
Adran 18 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | 2009/3354 (C. 154) |
Adran 18 (at y dibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2011 | 2010/2981 (C. 131) |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C. 11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C. 11) |
Mae amrywiol ddarpariaethau o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr drwy’r Gorchmynion Cychwyn a ganlyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o’r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).
Gweler hefyd adran 44(9) o’r Ddeddf sy’n darparu y daw paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym ar yr un diwrnod ag y daw adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) i rym at ddibenion mewnosod adran 17B yn Neddf Plant 1989(6).
2008 p. 23. Yn rhinwedd adran 44(6) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol cael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i Orchymyn sy’n dwyn adran 10(2) i rym o ran Cymru.
Mae’r diddymiadau yn y darpariaethau a restrir yn erthygl 2(c)(i) i (iv) fel y’i pennir yn Atodlen 4 i’r Ddeddf eisoes wedi eu cychwyn o ran Lloegr gan O.S. 2010/2981.
Diddymwyd Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) (yn ddarostyngedig i arbedion) gan O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliad 77. Cychwynnwyd adran 7(1) o’r Ddeddf honno (a fewnosododd adran 17B yn Neddf Plant 1989 (“Deddf 1989”)) o ran Lloegr gan O.S. 2003/1183, erthygl 2 ac fe’i diwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2015/914, Atodlen 1, paragraff 47(2) fel nad oedd yn gymwys ond o ran Cymru. Diddymwyd adran 17B o Ddeddf 1989 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131) heb iddi fod wedi cael ei chychwyn o ran Cymru.