Y diwrnod penodedig

2.  1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—

(a)adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;

(b)adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);

(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—

(i)adran 59 o Ddeddf Plant 1989(1);

(ii)adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989;

(iii)adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005(2);

(iv)adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006(3)(4).

(4)

Mae’r diddymiadau yn y darpariaethau a restrir yn erthygl 2(c)(i) i (iv) fel y’i pennir yn Atodlen 4 i’r Ddeddf eisoes wedi eu cychwyn o ran Lloegr gan O.S. 2010/2981.