Y diwrnod penodedig2

1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—

a

adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;

b

adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);

c

adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—

i

adran 59 o Ddeddf Plant 19892;

ii

adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989;

iii

adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 20053;

iv

adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 200645.