2017 Rhif 941 (Cy. 234)
Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.
Diwygio Rheoliadau 2010
2
Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.
3
Yn rheoliad 3(1) (dehongli)—
a
ar ôl y diffiniad o “Llywydd” (“President”) mewnosoder—
ystyr “Panel Penodiadau” (“Appointments Panel”) yw Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu a sefydlwyd o dan reoliad 8A;
b
ar ôl y diffiniad o “Cyngor Llywodraethu” (“Governing Council”) mewnosoder—
ystyr “cynrychiolydd cenedlaethol” (“national representative”) yw cynrychiolydd cenedlaethol a benodir o dan reoliad 13;
c
hepgorer y diffiniad o “cynrychiolydd rhanbarthol” (“regional representative”).
4
Ar ôl rheoliad 5 (sefydlu’r Cyngor Llywodraethu) mewnosoder—
Cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llywodraethu5A
Nid oes cworwm mewn cyfarfod o’r Cyngor Llywodraethu oni bai bod pedwar neu ragor o aelodau’r Cyngor Llywodraethu yn bresennol.
5
Yn rheoliad 6 (aelodaeth y Cyngor Llywodraethu)—
a
yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
b
y cynrychiolwyr cenedlaethol a benodir yn unol â rheoliad 13; ac
b
ym mharagraff (1)(c) yn lle “berson” rhodder “bersonau”;
c
hepgorer paragraff (2).
6
Yn rheoliad 7 (apwyntai Gweinidogion Cymru)—
a
ym mharagraff (1) yn lle “un person yn aelod” rhodder “hyd at dri pherson yn aelodau”;
b
hepgorer paragraff (2).
7
Ar ôl rheoliad 8 mewnosoder—
Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu8A
1
Ar 1 Rhagfyr 2017 sefydlir Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu.
2
Rhaid i’r Panel Penodiadau gynnwys tri aelod o’r Cyngor Llywodraethu.
3
Pan fo’r Panel Penodiadau yn penodi Cadeiryddion, ni chaniateir i’r Panel Penodiadau gynnwys unrhyw bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7.
8
Yn lle rheoliad 9 (penodi aelodau’r Tribiwnlys Prisio) rhodder—
Nifer aelodau’r Tribiwnlys Prisio a’u penodiad9
1
Mae’r Tribiwnlys Prisio yn cynnwys rhwng 16 o aelodau a—
a
o 1 Rhagfyr 2017 hyd 31 Mawrth 2018, 145 o aelodau;
b
o 1 Ebrill 2018 hyd 31 Mawrth 2019, 135 o aelodau;
c
o 1 Ebrill 2019 hyd 31 Mawrth 2020, 120 o aelodau; neu
ch
o 1 Ebrill 2020, 105 o aelodau.
2
At ddibenion y rheoliad hwn, bydd swydd yn wag pan fydd nifer yr aelodau yn is na—
a
16; neu
b
nifer yr aelodau a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) i (ch), ac ym marn y Llywydd, y nifer sy’n ofynnol er mwyn cyflawni swyddogaethau’r Tribiwnlys Prisio.
3
Pa fo swydd yn wag, rhaid i’r Panel Penodiadau benodi person i lenwi’r swydd.
4
Pan na fo swydd wag wedi ei llenwi gan y Panel Penodiadau o fewn 3 mis o fod yn swydd wag, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r Llywydd, benodi person i lenwi’r swydd wag.
5
Ni chaniateir i berson gael ei benodi o dan y rheoliad hwn, os bydd, erbyn diwedd cyfnod ei benodiad, wedi gwasanaethu am gyfnod o 10 mlynedd neu fwy fel aelod o’r Tribiwnlys Prisio.
6
Ond caniateir i berson a oedd yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phum mlynedd.
9
Yn rheoliad 10 (parhad aelodaeth o’r Tribiwnlys Prisio)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Bydd penodiad pob aelod o dan reoliad 9 yn cael effaith am gyfnod o bum mlynedd.
b
ym mharagraff (2)(a) yn lle “a bennir o dan baragraff (1)” rhodder “o bum mlynedd”;
c
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Rhaid i’r Panel Penodiadau, os cyfarwyddir hwy i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, derfynu cyfnod swydd aelod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod hwnnw.
d
ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Panel Penodiadau.
10
Yn rheoliad 11 (Llywydd y Tribiwnlys Prisio)—
a
ym mharagraff (4)(a), yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”;
b
hepgorer paragraff (8).
11
Yn rheoliad 12 (Cadeiryddion y Tribiwnlys Prisio)—
a
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Bydd y Llywydd yn un o’r Cadeiryddion a rhaid i’r Panel Penodiadau benodi nifer y Cadeiryddion sydd weddill o fewn y cyfnod a ragnodir.
b
ym mharagraff (3), yn lle “etholiad wedi ei gynnal” rhodder “penodiad wedi ei wneud”.
12
Yn lle rheoliad 13 (cynrychiolwyr rhanbarthol y Tribiwnlys Prisio) rhodder—
Cynrychiolwyr Cenedlaethol y Tribiwnlys Prisio13
1
Pan fo swydd yn wag, rhaid i aelodau’r Tribiwnlys Prisio benodi tri chynrychiolydd cenedlaethol o blith ei aelodau.
2
Rhaid i’r penodiad o dan baragraff (1) gael ei wneud yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2.
3
At ddibenion y rheoliad hwn, bydd swydd yn wag pan fydd nifer y cynrychiolwyr cenedlaethol yn llai na thri.
4
Pan na fo penodiad wedi ei wneud ar ddiwedd cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r swydd yn wag, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r Llywydd, benodi cynrychiolydd cenedlaethol o blith yr aelodau i lenwi’r swydd honno.
5
Bydd cynrychiolydd cenedlaethol yn dal y swydd hyd nes y bydd pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—
a
diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dilyn y dyddiad yr ymgymerodd y cynrychiolydd cenedlaethol â’i swydd;
b
y cynrychiolydd cenedlaethol yn peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio;
c
y cynrychiolydd cenedlaethol yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd;
ch
hysbysiad terfynu o dan baragraff (6) yn cael effaith.
6
O ran y Llywydd—
a
caiff, ar ôl ymgynghori â’r Cyngor Llywodraethu, derfynu cyfnod swydd y cynrychiolydd cenedlaethol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cynrychiolydd cenedlaethol hwnnw; a
b
rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, derfynu cyfnod swydd y cynrychiolydd cenedlaethol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cynrychiolydd cenedlaethol hwnnw.
7
Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (6)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Llywydd.
13
Yn rheoliad 19(1) (cofnodion) ar ôl “y Cyngor Llywodraethu” mewnosoder “, y Panel Penodiadau”.
14
Hepgorer Atodlen 1 (penodi aelodau).
15
Yn Atodlen 2 (gweithdrefn ethol)—
a
hepgorer paragraff 6;
b
yn lle paragraff 7 rhodder—
7
Rhaid i enwebiadau—
a
cael eu gwneud gan ymgeiswyr i’r prif weithredwr; a
b
cael eu hanfon ynghyd â datganiad na chaiff fod yn llai na 250 o eiriau nac yn fwy na 500 o eiriau a gyflenwir ar gyfer ei ddosbarthu gyda’r hysbysiad o bôl.
c
yn lle paragraff 8 rhodder—
8
Os na fydd nifer yr ymgeiswyr am swydd wag yn fwy na nifer y swyddi gwag, mae’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr i’w benodi neu eu penodi.
d
yn lle paragraff 9 rhodder—
9
Os yw nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y swyddi gwag, rhaid cynnal etholiad gan ddefnyddio papurau pleidleisio (“pôl”).
e
hepgorer paragraff 11;
f
ym mharagraff 12—
i
yn lle “rhanbarthol” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos rhodder “cenedlaethol”;
ii
yn is-baragraff (a)(i) hepgorer y geiriau o “, a benodwyd” i “yn wag”;
iii
yn lle is-baragraff (c) rhodder—
c
yr aelod neu’r aelodau a etholir yn gynrychiolwyr cenedlaethol fydd yr aelod neu’r aelodau sydd â’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd, hyd at y nifer o gynrychiolwyr cenedlaethol sydd i’w hethol.
g
ym mharagraff 14 hepgorer “o leiaf 21 diwrnod”;
h
yn lle paragraff 15(c) rhodder—
c
cael ei anfon ynghyd ag unrhyw ddatganiad a gyflenwir gan ymgeisydd o dan baragraff 7(b).
i
hepgorer paragraffau 17 i 19;
j
hepgorer paragraff 22;
k
ym mharagraff 24 hepgorer is-baragraffau (2) i (4);
l
ym mharagraff 25—
i
hepgorer is-baragraff (2);
ii
yn is-baragraff (3)—
aa
ar ôl “yw” mewnosoder “aelod o’r Tribiwnlys Prisio sy’n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl.”;
bb
hepgorer paragraffau (a) i (c);
iii
hepgorer is-baragraffau (4) a (5).
Diwygio’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig
16
Mae’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 17 a 18.
17
Ar ôl rheoliad 25 (penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig) o’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig mewnosoder—
Disposal by written representations – where parties have come to an agreement25A
1
The valuation tribunal may dispose of an appeal under these Regulations without a hearing if—
a
a party informs the valuation tribunal in writing—
i
that parties have come to an agreement;
ii
what that agreement is and the decision the valuation tribunal is asked to make; and
iii
that parties agree for the appeal to be disposed of without a hearing; and
b
the clerk sends a notice to all parties to the proceedings stating—
i
the valuation tribunal is minded to dispose of the appeal without a hearing;
ii
the decision the valuation tribunal is minded to take; and
iii
that any party can object to the appeal being disposed of without a hearing.
2
If a notice is sent under paragraph (1)(b), a party may request to the clerk that the appeal be disposed of with a hearing.
3
A request under paragraph (2) must be made in writing and received by the clerk within 4 weeks of the date on which the clerk sent a notice under paragraph (1)(b).
4
The valuation tribunal must not dispose of an appeal without a hearing if—
a
in the opinion of the clerk, the appeal raises issues of public importance such as to require that hearing be held;
b
a period of four weeks from which the notice under paragraph (1)(b) was sent has not elapsed; or
c
a party to the appeal has requested a hearing.
5
The functions of the valuation tribunal under this Regulation may be performed on its behalf by the clerk.
18
Ar ôl rheoliad 27(4) (hysbysiad o wrandawiad) o’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig mewnosoder—
5
Where a hearing is requested under regulation 25A(2) and the hearing is postponed, the clerk must inform parties to the proceedings if the valuation tribunal is of the view that parties to the proceedings can come to an agreement.
Darpariaethau trosiannol
19
1
Ar 1 Rhagfyr 2017 mae unrhyw berson a oedd yn gynrychiolydd rhanbarthol, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei benodi’n gynrychiolydd cenedlaethol.
2
Mae cyfnod swydd person a benodir o dan baragraff (1) yn dod i ben ar yr un diwrnod ag y byddai ei gyfnod swydd yn gynrychiolydd rhanbarthol wedi dod i ben.
20
Ar 1 Rhagfyr 2017 caiff unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod neu’n Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio barhau i ddal a gadael ei swydd yn unol â thelerau’r offeryn sy’n ei benodi.
21
Nid yw rheoliadau 17 a 18 yn gymwys i unrhyw apêl o dan y Rheoliadau Ardrethu Annomestig a gyfeiriwyd at y Tribiwnlys Prisio cyn 1 Rhagfyr 2017.
22
Bydd dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol a benodir o dan reoliad 13 o Reoliadau 2010 yn peidio â dal swydd fel dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)