Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017

Rheoliad 2

YR ATODLENMaterion i roi sylw iddynt wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

1.  Yr adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1).

2.  Y mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(2) ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.