Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i gyfansoddiad.

Mae erthygl 3 yn nodi prif swyddogaethau AaGIC sydd i gael eu pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Mae prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae erthygl 4 yn nodi cyfansoddiad AaGIC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd AaGIC.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo na rhwymedigaethau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.