Penodi aelodau3

1

Penodir aelodau AaGIC fel a ganlyn—

a

penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru;

b

penodir hyd at chwe aelod arall yn ogystal â’r cadeirydd gan Weinidogion Cymru;

c

penodir y prif weithredwr yn unol â pharagraff (4);

d

penodir hyd at bedwar aelod arall gan yr aelodau a benodir o dan is-baragraffau (a) a (b).

2

Ni chaniateir i’r aelodau a benodir o dan baragraff (1)(a) a (b) fod yn gyflogeion AaGIC, a chyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “aelodau nad ydynt yn swyddogion”.

3

Cyflogeion AaGIC fydd yr aelodau a benodir o dan baragraff (1)(c) a (d), a chyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “swyddog-aelodau”.

4

Penodir y prif weithredwr gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ar wahân i’r prif weithredwr cyntaf a benodir gan Weinidogion Cymru.