- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2(2)
1 | Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg |
---|---|
Safon 94: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 95: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 96: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 97: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch yr effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 98: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 99: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 100: | Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol— (a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol yn eu cael ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (c) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (ch) a oes angen ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 101: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 102: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 103: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 104: | Pan fyddwch yn datblygu neu’n addasu cwrs (neu unrhyw gydran o gwrs), rhaid ichi ystyried— (a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai’r cwrs hwnnw yn eu cael ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (b) sut y byddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (c) sut na fyddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
2 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, i’r graddau y mae’r penderfyniad yn ymwneud â’r canlynol— (a) derbyn a dethol myfyrwyr; (b) gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff; (c) lles myfyrwyr; (ch) cwynion; (d) achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr; (dd) gwasanaeth gyrfaoedd; (e) mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu; (f) seremonïau graddio a gwobrwyo; (ff) asesu neu arholi myfyriwr; (g) dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol; (ng) darlithoedd cyhoeddus; (h) cyfleoedd dysgu; (i) cyrsiau; (j) arwyddion ar adeiladau’r corff; (l) llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau; (ll) dyrannu tiwtor personol; (m) galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio; ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch— (i) cynnwys deddfwriaeth; (ii) arfer pwerau statudol; (iii) cynnwys datganiadau polisi; (iv) strategaethau neu gynlluniau strategol; (v) strwythurau mewnol; (vi) lleoliadau swyddfeydd ac adeiladau; (vii) recriwtio neu ddefnyddio gwirfoddolwyr. |
3 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un ai ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. |
4 | Yn yr Atodlen hon mae i “cyfleoedd dysgu” yr un ystyr ag ym mharagraff 63 o Atodlen 1. |
5 | Yn yr Atodlen hon, mae i “dyrannu tiwtor personol” yr un ystyr ag ym mharagraff 66 o Atodlen 1. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: