xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
7 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Medi 2017
Yn dod i rym
6 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 253A(2) a (3) ac adran 262(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Hydref 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cymhwyster penodedig” (“specified qualification”) yw cymhwyster perthnasol ac, ar y dyddiad pan fo’r person wedi ei gofnodi ar gyfer y cymhwyster hwnnw—
roedd wedi ei gymeradwyo o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) at ddibenion adran 96 o’r Ddeddf honno;
mae wedi ei gymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf 2015;
mae wedi ei ddynodi o dan adran 29 o Ddeddf 2015; neu
mae’n deillio o gwrs addysg neu hyfforddiant sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 34(8) o Ddeddf 2015;
ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion person sy’n 16 oed ac yn hŷn y ceir cyllid amdani neu amdano gan Weinidogion Cymru;
ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015(3).
3. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.
4. Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff person ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.
5. Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 yw bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.
6. Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth yw—
(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a
(b)bod Gweinidogion Cymru neu’r coladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.
7. Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson yw—
(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a
(b)o ran yr unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef—
(i)ei fod, neu yr oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu
(ii)ei fod, neu oedd ei fod wedi, ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.
8. Mae’r disgrifiad o wybodaeth am fyfyrwyr a bennir yn Atodlen 1 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009.
9.—(1) Mae’r personau yn Rhan 1 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(c) o Ddeddf 2009.
(2) Mae’r categorïau o bersonau yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(d) o Ddeddf 2009.
Alun Davies
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru.
7 Medi 2017
Rheoliad 8
1. Ar gyfer pob unigolyn sy’n ceisio, wedi ceisio neu wedi cael cymhwyster penodedig, yr wybodaeth a ganlyn—
(a)cyfenw;
(b)enw cyntaf, neu bob enw cyntaf, os oes mwy nag un;
(c)rhyw;
(d)dyddiad geni;
(e)grŵp ethnig;
(f)cyfeiriad cartref a chod post;
(g)rhif unigryw’r dysgwr a ddyrannwyd i unigolyn gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu(4);
(h)y cymwysterau perthnasol neu’r cymwysterau rheoleiddiedig, os oes rhai, sydd gan yr unigolyn wrth ymrestru neu gofrestru â’r darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig;
(i)y dyddiad pan gofrestrodd, neu pan ymrestrodd, yr unigolyn â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.
2. Enw a chyfeiriad y darparwr dysgu y mae’r unigolyn, neu yr oedd yr unigolyn, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru ag ef.
3. Ar gyfer pob cymhwyster penodedig y mae unigolyn yn ei geisio, wedi ei geisio, neu wedi ei gael—
(a)enw’r cymhwyster;
(b)y cod adnabod unigryw a ddyrannwyd i’r cymhwyster gan Gymwysterau Cymru(5);
(c)y radd y mae darparwr dysgu neu goladydd gwybodaeth yn rhag-weld y bydd unigolyn yn ei chael cyn sefyll unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;
(d)y radd, os oes un, a gafwyd;
(e)enw a chyfeiriad y ganolfan arholi a rhif y ganolfan arholi, a ddyrannwyd gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster, y safwyd unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster ynddi;
(f)y dyddiad pan gofnodwyd unigolyn ar gyfer arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;
(g)y dyddiad pan ddyfarnwyd y cymhwyster;
(h)y rhif unigryw a ddyrannwyd i unigolyn sy’n ceisio’r cymhwyster gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster.
Rheoliad 9
Y Cyd-Gyngor Cymwysterau(6)
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(7)
Career Choices Dewis Gyrfa Limited (rhif cofrestru’r cwmni 07442837)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(8)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr(9)
Cymwysterau Cymru
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau(10)
Universities and Colleges Admissions Service (rhif cofrestru’r cwmni 02839815)
Student Loans Company Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02401034)
Higher Education Statistics Agency Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02766993)
Darparwr dysgu
Personau sydd, at ddiben hybu addysg neu lesiant myfyrwyr yng Nghymru, yn—
(a)cynnal gwaith ymchwil neu ddadansoddi;
(b)ynhyrchu ystadegau;
(c)darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau;
ac y mae angen gwybodaeth am fyfyrwyr arnynt at y diben hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caiff person yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr iddynt. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi’r math o wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei rhannu a’r amgylchiadau pan ganiateir i’r wybodaeth honno gael ei rhannu.
Mae rheoliadau 3 i 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth am fyfyrwyr gael ei rhannu.
Mae rheoliad 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i’r llall, i berson rhagnodedig neu i gategori rhagnodedig o berson os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.
Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff person ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth os yw’r wybodaeth honno yn ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig a bod Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.
Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff person (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth) ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson os yw dau amgylchiad wedi eu bodloni. Rhaid i’r wybodaeth ymwneud â pherson sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig. Yn ogystal, mae’r person, neu roedd y person, y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu mae’n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, neu wedi ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant, gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.
Mae cymhwyster penodedig yn gymhwyster perthnasol sy’n gymwys i gael cyllid gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 neu Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Mae rheoliad 8 ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir iddi gael ei darparu.
Mae rheoliad 9 ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caniateir i wybodaeth gael ei darparu iddynt.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2009 p. 22; mewnosodwyd adran 253A gan adran 79 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26). Diwygiwyd adran 253A gan adran 58 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5), a pharagraff 9 o Atodlen 4 iddi.
2000 p. 21; diddymwyd adran 99 gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, adran 58, Atodlen 4, paragraff 3(1), (5).
Cynhelir y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu gan yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau.
Mae Cymwysterau Cymru yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Mae’r Cyd-Gyngor Cymwysterau yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n gyfyngedig drwy warant.
Mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi ei benodi drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18).
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gorff corfforaethol a sefydlwyd o dan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13).
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr yn gorff corfforaethol a sefydlwyd o dan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 127 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).