Diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 201210

Yn rheoliad 19 (troseddau a chosbau)—

a

ym mharagraff (1), hepgorer “neu (4)”;

b

ym mharagraff (3), hepgorer “, neu sy’n methu â chydymffurfio â rheoliad 10(6)”;

c

yn lle paragraff (5) rhodder—

5

Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

a

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), neu 16(4)—

i

o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

ii

o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

b

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.