xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 832 (Cy. 202)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

9 Awst 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Awst 2017

Yn dod i rym

14 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A)(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Medi 2017.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

2.  Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 10/2011” rhodder—

“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(5);.

4.  Yn rheoliad 7 (troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009), hepgorer paragraff (2).

5.  Yn rheoliad 12(8) (rheolaethau a therfynau), hepgorer “, (6)”.

6.  Yn rheoliad 13 (dehongli Rhan 6 a’r Atodlen)—

(a)yn y pennawd, yn lle “a’r Atodlen” rhodder “ac Atodlen 1”; a

(b)yn lle “yr Atodlen” rhodder “Atodlen 1”.

7.  Yn rheoliad 14 (troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “o’r Atodlen” rhodder “o Atodlen 1”; a

(b)hepgorer paragraff (2).

8.  Yn lle rheoliad 15 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011), rhodder—

15.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau 8 ac 16(1) o Reoliad 10/2011 yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

9.  Yn rheoliad 16 (cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE))—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “paragraffau (2) a (3)” rhodder “paragraff (2)”;

(b)hepgorer paragraff (3); ac

(c)ym mharagraff (4), hepgorer “neu (3)”.

10.  Yn rheoliad 19 (troseddau a chosbau)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “neu (4)”;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer “, neu sy’n methu â chydymffurfio â rheoliad 10(6)”;

(c)yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

(a)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), neu 16(4)—

(i)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

(ii)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

(b)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

11.  Yn rheoliad 20 (gweithredu a gorfodi), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac

(c)Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.

12.  Yn rheoliad 23(2) (y terfyn amser ar gyfer erlyniadau), hepgorer “7(2), 14(2) neu”.

13.  Yn lle rheoliad 27 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau’r Ddeddf) rhodder y canlynol—

27.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)rheoliadau 10(4), 10(6) a 12(6);

(ii)Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004;

(iii)Erthygl 5 o Reoliad 1895/2005;

(iv)Erthyglau 12 a 13 o Reoliad 450/2009; a

(v)ail frawddeg Erthygl 8, Erthygl 15 fel y’i darllenir gydag Atodiad IV, ac Erthygl 16 o Reoliad 10/2011; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

14.  Yn yr Atodlen (darpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011)—

(a)ail-rifer yr Atodlen yn Atodlen 1;

(b)yn lle’r testun yn y golofn gyntaf o seithfed res (sy’n ymwneud ag Erthygl 11) y tabl, rhodder “Erthygl 11(1) ac Atodiad I, fel y’u darllenir gydag Erthygl 11(3) a (4)”; ac

(c)hepgorer y cofnodion yn rhes olaf y tabl.

15.  Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder yr Atodlen 2 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

9 Awst 2017

Rheoliad 15

YR ATODLENCymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

Rheoliad 27

ATODLEN 2

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the authorised officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

(1A) The provisions referred to in subsection (1) are—

(a)regulations 10(4), 10(6) and 12(6) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012;

(b)Article 16 of Regulation 1935/2004;

(c)Article 5 of Regulation 1895/2005;

(d)Articles 12 and 13 of Regulation 450/2009; and

(e)the second sentence of Article 8, Article 15 as read with Annex IV, and Article 16 of Regulation 10/2011.

RHAN 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1

Darpariaeth y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiad

Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 30(6) ac (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 32 (pwerau mynediad)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd), rhodder “section 10(1) of this Act as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

“Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, may appeal to a magistrates’ court.”

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution.”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 (O.S. 2012/2705 (Cy. 291)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau’n—

(a)darparu ar gyfer gorfodi’n barhaus Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 12, 15.1.2011, t 1) (“Rheoliad 10/2011”) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 113, 29.4.2017, t 18) drwy—

(i)disodli’r diffiniad o Reoliad 10/2011 yn y prif Reoliadau er mwyn i gyfeiriadau at Reoliad 10/2011 fod yn gyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd (rheoliad 3); a

(ii)diwygio cyfeiriadau at Reoliad 10/2011 yn y tabl yn yr Atodlen i’r prif Reoliadau i orfodi diwygiadau a wnaed i Reoliad 10/2011 (rheoliad 14(b));

(b)cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) (“Deddf 1990”), gydag addasiadau, i’r prif Reoliadau (rheoliadau 13 a 15). Cymhwysir adran 10 o Ddeddf 1990 (gydag addasiadau) i alluogi i hysbysiadau gwella gael eu cyflwyno i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a restrir yn rheoliad 27(1)(a) o’r prif Reoliadau fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd. Gwneir diwygiadau canlyniadol—

(i)i ddarparu mai drwy gyflwyno hysbysiadau gwella, yn hytrach na thrwy erlyniadau, y mae achosion o beidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig i gael eu trin (rheoliadau 4, 5, 7(b), 9, 10, 12 a 14(c));

(ii)i ail-rifo’r Atodlen bresennol i’r prif Reoliadau (rheoliadau 6, 7(a), 14(a) a 15); ac

(c)gwneud mân ddiwygiadau sy’n egluro pwy yw’r awdurdodau cymwys (rheoliad 8) a’r awdurdodau gorfodi (rheoliad 11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(2) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) a (2) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

(5)

Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752 (OJ Rhif L 113, 29.4.2017, t 18).