xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2);

mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(3);..

(3Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(a)swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu

(b)plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw..

(4Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—

(a)ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);

(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5..

(5Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—

(a)ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a;

(b)ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(cha)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a.

(6Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 5(4) yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015

3.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(6);

mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â pherson sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(7);..

(3Yn rheoliad 4 (adolygu cynlluniau)—

(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—

(1A) Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’r person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw..

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—

(3) Mae’r ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth person pan fo’r person yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn yr Atodlen..

(4Ar ddiwedd y Rheoliadau mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

4.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(9);”; a

(b)

yn lle’r diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd” rhodder y canlynol—

“ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth(10);”.

(3Yn rheoliad 41 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “mharagraff 1” rhodder “mharagraffau 1 i 17”,

(b)ym mharagraff (2) yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraffau 18 i 26”,

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(3) Ym mharagraff (2) ac yn Atodlen 8—

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth(11)..

(4Yn rheoliad 57 (addasiadau i Ran 2), ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad (5)” rhodder “rheoliad 7(5)”.

(5Yn Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C), ar ôl paragraff 17 mewnosoder y canlynol—

18.  Manylion am unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer P.

19.  Manylion am unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ar gyfer P gan unrhyw berson.

20.  Unrhyw newidiadau yng ngallu P i ofalu am blant, ac yn enwedig mewn perthynas ag C, o ganlyniad i’r gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.

21.  Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.

22.  Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.

23.  Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

24.  A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion C ac anghenion P, neu anghenion unrhyw aelod arall o aelwyd P, a sut y gellir datrys hyn.

25.  Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.

26.  Ym mharagraffau 18 i 25—

Mae “P” i gael ei ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at “rhiant” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth..

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

26 Mehefin 2017