Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2017.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 20072
1
Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 20071 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 20152;
mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth3;.
3
Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—
a
swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu
b
plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.
4
Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—
a
ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
b
ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—
2
Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5.
5
Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—
a
ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—
cha
yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a
b
ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—
cha
yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a
6
Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 54 yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 20153
1
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 20155 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 20156;
mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â pherson sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth7;.
3
Yn rheoliad 4 (adolygu cynlluniau)—
a
ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—
1A
Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’r person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.
b
ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—
3
Mae’r ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth person pan fo’r person yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn yr Atodlen.
4
Ar ddiwedd y Rheoliadau mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20154
1
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20158 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
a
yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 20159;”; a
- a
yn lle’r diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd” rhodder y canlynol—
- a
“ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth10;”.
3
Yn rheoliad 41 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt)—
a
ym mharagraff (1) yn lle “mharagraff 1” rhodder “mharagraffau 1 i 17”,
b
ym mharagraff (2) yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraffau 18 i 26”,
c
ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—
3
Ym mharagraff (2) ac yn Atodlen 8—
mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth11.
4
Yn rheoliad 57 (addasiadau i Ran 2), ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad (5)” rhodder “rheoliad 7(5)”.
5
Yn Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C), ar ôl paragraff 17 mewnosoder y canlynol—
18
Manylion am unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer P.
19
Manylion am unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ar gyfer P gan unrhyw berson.
20
Unrhyw newidiadau yng ngallu P i ofalu am blant, ac yn enwedig mewn perthynas ag C, o ganlyniad i’r gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
21
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
22
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
23
Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
24
A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion C ac anghenion P, neu anghenion unrhyw aelod arall o aelwyd P, a sut y gellir datrys hyn.
25
Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.
26
Ym mharagraffau 18 i 25—
Mae “P” i gael ei ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at “rhiant” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth.